Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod

Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod.

Deddfwriaeth a chanllawiau

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae 11 Rhan i’r Ddeddf, gyda Rhan 7 yn ymwneud yn benodol â Diogelu. Dyma’r ddeddfwriaeth sydd yn rhoi’r fframwaith i Weithdrefnau Diogelu Cymru.

I gyd-fynd â’r Ddeddf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diogelu statudol Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl.

Cynlluniwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru i alluogi ymarferwyr rheng-flaen a’u rheolwyr i gymhwyso gofynion a disgwyliadau deddfwriaethol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Y nod yw gwella deilliannau canoli ar yr unigolyn i oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r gweithdrefnau hefyd yn cydnabod deddfwriaeth, canllawiau a phrotocolau perthnasol eraill. Er enghraifft, Deddf Cam-drin Domestig (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â www.diogelu.cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig