Oedolion sy'n wynebu risg o gam-drin ac esgeulustod
Diffinio oedolion sy’n wynebu risg o gam-drin ac esgeulustod
Mae Adran 126(1) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(yn agor mewn tab newydd) yn diffinio “oedolyn sy’n wynebu risg fel oedolyn:
- sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso,
- sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio); ac
- nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.
Mae’n bwysig nodi bod:
- defnyddio'r term 'wynebu risg' yn golygu nad oes rhaid bod y cam-drin neu’r esgeuluso wedi digwydd cyn i ymarferwyr ymyrryd, yn hytrach, dylid ystyried ymyriadau cynnar i amddiffyn oedolyn mewn perygl er mwyn atal cam-drin ac esgeulustod;
- mae'r tri amod sy'n angenrheidiol i ddangos bod oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai ag anghenion gofal a chymorth y mae hefyd angen camau gweithredu arnynt i sicrhau eu bod yn ddiogel yn y dyfodol oherwydd nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain;
- mae cam-drin oedolion yr ystyrir eu bod 'mewn perygl' yn aml yn gysylltiedig â'u hamgylchiadau yn hytrach na nodweddion y bobl sy'n wynebu niwed;
- gall risg o gam-drin neu esgeulustod fod o ganlyniad un pryder neu nifer o ffactorau.
Cam-drin
Cam-drin
- gall fod yn gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (yn cynnwys lladrad, twyll, pwysau am arian, camddefnyddio arian)
- gall ddigwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw le arall.
Esgeulustod
Mae hyn yn disgrifio methiant i ddiwallu anghenion corfforol sylfaenol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol unigolyn, sy'n debygol o arwain at amharu ar lesiant yr unigolyn (er enghraifft, nam ar iechyd yr unigolyn).
Gall ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, fel annedd breifat, darpariaeth gofal preswyl neu ddarpariaeth gofal dydd.
Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol y gallai'r ymddygiadau canlynol roi'r oedolyn mewn perygl o gam-drin neu esgeulustod:
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) mae hyn yn cynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
- Caethwasiaeth Fodern
- Cam-drin domestig a thrais yn erbyn dynion
- Cam-fanteisio troseddol
Mae'n bwysig nodi NAD yw'r rhain yn rhestrau cynhwysfawr. Yn hytrach, maent yn cynnig rhai awgrymiadau i ymarferwyr a allai dynnu eu sylw at oedolion sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Os ydych chi'n amau bod oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin a’i esgeuluso, cysylltwch â'r Uned Diogelu ar 01495 762200.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar https://safeguarding.wales
Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2026
Nôl i’r Brig