Cam-drin Domestig

Beth yw Cam-drin Domestig?

Yn y bôn, mae cam-drin domestig yn golygu un person yn camddefnyddio pŵer a defnyddio grym gorfodol dros berson arall y mae/neu y bu ganddo ef neu hi berthynas agos ag ef neu hi.

Trais domestig yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio camdriniaeth wirioneddol p’un ai’n gorfforol, emosiynol, seicolegol, rhywiol neu ariannol a hynny gan gymar, aelod o’r teulu neu rywun sydd yn/neu a fu mewn perthynas agos. Ystyrir hefyd bod cam-drin domestig yn cynnwys caniatáu plentyn i weld neu fod mewn peryg o weld cam-drin domestig.

Mae yna wahanol fathau o gam-drin domestig, ond yn bennaf maen nhw syrthio i 4 prif gategori, sef:

  • Cam-drin Corfforol
  • Cam-drin emosiynol
  • Cam-drin Rhywiol
  • Cam-drin Ariannol

Mae cam-drin domestig yn digwydd gwaeth beth yw rhyw, hil, dosbarth, oed, crefydd, rhywioldeb, gallu meddyliol, gallu corfforol, incwm, ffordd o fyw neu ym mha ardal y mae’r person yn byw.

I gael gwybodaeth bellach ewch i wefan Diogelu Gwent.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 766495

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig