Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mae'r term salwch meddwl yn cwmpasu amrywiaeth o wahanol broblemau a heriau i'n trigolion a, rhywbryd yn ystod ein bywyd, bydd rhyw fath o salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom.

Mae nifer o wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl yn bodoli a gallant amrywio'n fawr. Os ydych yn pryderu amdanoch chi eich hun neu rywun sy'n agos atoch chi, mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â'ch meddyg yn gyntaf. Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn trafod hyn gyda'ch meddyg teulu, mae llawer o wahanol sefydliadau a allai eich helpu. Er enghraifft, gallech droi at y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r GIG, neu sefydliad gwirfoddol fel MIND, Cmig neu'r Gymdeithas Alzheimer.

Efallai hefyd y byddwch yn dymuno cysylltu â Chanolfan Gofalwyr Torfaen yn 3 Heol Crane, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 6LY, rhif ffôn 01495 753838 neu Cmig - Cefnogi Iechyd Meddwl yn 44 Stryd Victoria, Cwmbrân, NP44 3JN, rhif ffôn 01633 877443.

Mae sawl ffordd o drin anghenion iechyd meddwl, gan gynnwys meddyginiaeth a chwnsela, a'ch meddyg teulu fydd yn gyfrifol am reoli hyn. Yn achos salwch meddwl difrifol, mae'n bosibl y byddai atgyfeirio'r unigolyn i'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn briodol.

Nid yw salwch meddwl wedi'i gyfyngu i bobl ag afiechydon gweithredol fel Sgitsoffrenia, Anhwylder Deubegynol ac ati. Mae nifer gynyddol o bobl hŷn yn datblygu salwch tebyg i ddementia, sy'n wanychol iawn ac sy'n cael effaith drawmatig ar y sawl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u gofalwyr. Mae nifer fwy o bobl iau yn cael diagnosis o afiechydon tebyg i ddementia.

Mae camddefnyddio sylweddau (gan gynnwys alcohol) yn ffactor arwyddocaol sy'n achosi neu'n cyfrannu at salwch meddwl ac rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau allanol fel Prosiect Kaleidoscope

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Tel: 01495 762200

Nôl i’r Brig