MEND (Meddwl, Ymarfer, Maethu, Gwneud!)

MEND (Meddwl, Ymarfer, Maethu, Gwneud) rhaglenni i’r teulu sy’n rhad ac am ddim ac yn canolbwyntio ar ffitrwydd hwyl ac atal gordewdra a chlefyd y galon. 

Mae MEND 2-4 wedi ei anelu at hyrwyddo maeth da yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r darparu cyfuniad o chwarae heini a chreadigol, technegau dod i gysylltiad â bwyd a gweithdai i rieni/warchodwyr ar ffyrdd iach o fyw. Mae gan bob rhaglen sesiynau wythnosol 1.5 awr am ddeg wythnos. Rhaid i rieni a gwarchodwyr fynychu’r sesiynau, sy’n cael eu cynnal yn ystod oriau ysgol, gyda’u plant.   

Mae MEND 7-13 yn targedu plant sydd yn pwyso mwy na’r ystod iach ar gyfer eu taldra a’u pwysau. Mae’n cynnig agwedd anfygythiol at reoli pwysau a newid ffordd o fyw i’r teulu. Mae’n darparu 2 awr o ymarfer corff bob wythnos mewn gosodiad diogel a hwyl. Mae pob rhaglen yn cynnwys 20x2 awr o sesiynau grŵp ar ôl ysgol dros gyfnod o 10 wythnos::

  • 1 awr o addysg ddifyr i blant - sgiliau maethu a chymhelliad
  • 1 awr o ymarfer corff i blant
  • 1 awr o hyfforddiant cymhelliad neu hyfforddiant pellach ar faeth i rieni

Am fwy o wybodaeth am y rhaglenni neu i gyfeirio rhywun cysylltwch â: Jocelyne Jones, Rheolwr Rhaglenni MEND ar 01633 647420. 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheolwr Rhaglen MEND 

Ffôn: 01633 647420

Nôl i’r Brig