Gwelyau Haul

Mae'n ofynnol yn ôl Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 bod busnesau'n sicrhau nad oes unrhyw un o dan 18 oed:

  • yn defnyddio gwely haul
  • yn cael cynnig defnyddio gwely haul, neu
  • yn bresennol mewn parth dan gyfyngiad.

Mae'r ddogfen Canllawiau Gweithredu Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 wedi'i llunio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n esbonio gofynion y Ddeddf, gan gynnwys sefydlu 'parthau dan gyfyngiad' mewn eiddo.

Gan amlaf, bydd methu â chydymffurfio â'r Ddeddf yn drosedd a gellid wynebu dirwy o hyd at £20,000.

Bydd rheoliadau pellach yn cael eu cyflwyno gan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 a fydd, o 31 Hydref 2011 ymlaen:

  • yn gofyn am oruchwylio'r defnydd o welyau haul ym mhob busnes gwelyau haul
  • yn gwahardd gwerthu neu hurio gwelyau haul i bobl o dan 18 oed
  • yn ymestyn y gofyniad i fusnesau sy'n gweithredu o fangre ddomestig sicrhau na chaiff gwelyau haul eu defnyddio, na'u cynnig i'w defnyddio, gan bobl o dan 18 oed yn y fangre honno
  • yn rhagnodi'r wybodaeth iechyd y mae'n rhaid ei harddangos a'i darparu i oedolion sy'n gofyn am gael defnyddio gwely haul
  • yn gofyn bod yr holl oruchwylwyr yn gymwys ac wedi cael hyfforddiant digonol
  • yn gwahardd darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag effeithiau defnyddio gwely haul ar iechyd heblaw am y deunydd sy'n cynnwys y wybodaeth iechyd ragnodedig, ac 
  • yn ei gwneud hi'n ofynnol bod offer llygaid amddiffynol ar gael ac yn cael eu gwisgo gan oedolion.

I gael gwybodaeth a chyngor neu i wneud cwyn neu ymholiad ynghylch gweithle, cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Tŷ Blaen Torfaen
Ffordd Panteg
New Inn
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 0LS

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 648095

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig