Gwasanaeth Fferyllfa Anhwylderau Cyffredin

A oes angen i chi weld y meddyg heddiw? Os ydych yn meddwl:

  • bod gennych anhwylder cyffredin ond nid ydych yn siŵr am eich symptomau na sut i’w trin gyda moddion dros y cownter
  • A bod angen apwyntiad GIG arnoch

Erbyn hyn gallwch gael CYNGOR A THRINIAETH AM DDIM GAN Y GIG (lle bo angen) ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin gan eich fferyllwyr cymunedol lleol yn lle gweld y meddyg.

  • Nid oes rhaid i chi wneud apwyntiad.
  • Gallwch alw heibio ar amser sy’n addas i chi.

Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer y cyflyrau canlynol:

  • Acne
  • Tarwden y traed
  • Poen yn y cefn (dwys)
  • Brech yr ieir
  • Briw gwefus
  • Colig
  • Llid yr amrannau
  • Rhwymedd
  • Croen sych
  • Dolur rhydd
  • Llygaid sych
  • Clwy’r marchogion
  • Clwy’r gwair
  • Llau pen
  • Diffyg traul/adlif
  • Casewin
  • Intertrigo/tarwden
  • Briwiau yn y geg
  • Brech cewyn
  • Llindag yn y geg
  • Clefyd crafu
  • Dolur gwddf
  • Torri dannedd
  • Edeulyngyren
  • Llindag gweiniol
  • Ferwca

Lle nad yw'r GIG yn argymell meddyginiaeth, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor i chi ar sut i reoli'r cyflwr.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

BILl Torfaen

Ffôn: 01495 332200

E-bost: enquiries@torfaenlhb.wales.nhs.uk

Nôl i’r Brig