Grantiau Cymunedol
Cronfa ‘Trailblazer’ 2026/2027
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau a mudiadau cymunedol am grantiau o hyd at £20,000 trwy Gronfa o’r enw ‘Trailblazer’. Mae'r gronfa hon yn rhoi cymorth ariannol i brosiectau sy'n cefnogi partneriaid cyflenwi lleol i dreialu a gweithredu dulliau arloesol sy'n ymgysylltu â thrigolion economaidd anweithgar ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau i gyfranogiad, llesiant, a dilyniant tuag at ddysgu, gwirfoddoli neu gyflogaeth.
Rhaid i brosiectau gefnogi oedolion sy’n:
- Economaidd anweithgar (y rheiny rhwng 16 a 64 oed sydd heb swydd, sydd heb fynd ati’n weithgar i chwilio am waith yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, a/neu sydd ddim ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf), ac
- Yn wynebu rhwystrau iechyd, llesiant, hyder, cymdeithasol neu ymarferol sy’n eu hatal rhag gweithio.
Rydyn ni eisiau archwilio ffyrdd arloesol o gefnogi trigolion sydd allan o waith oherwydd rhwystrau iechyd a llesiant, gan gynnwys:
- Cyflyrau cardiofasgwlaidd
- Diabetes
- Iselder a gorbryder
- Ynysu cymdeithasol a diffyg hyder
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Anogir grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol, ac elusennau lleol sy'n gweithredu yn Nhorfaen i gyflwyno cais. Dylai prosiectau ddangos budd cymunedol clir a bodloni'r meini prawf cymhwystra a amlinellir yng nghanllawiau'r Gronfa sydd yn y pecyn ymgeisio.
Sesiynau Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd sesiwn ar-lein yn cael ei threfnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:
- 1 Gorffennaf 2026 - 10am
- 17 Gorffennaf 2026 - 10am
Os hoffech ddod i’r naill sesiwn neu'r llall, rhaid i chi gofrestru eich diddordeb trwy anfon neges e-bost i CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:
- Dyddiad y sesiwn yr ydych yn ei dymuno
- Enw'r mudiad
- Enw'r un fydd yn dod i’r sesiwn
- Cyfeiriad e-bost ar gyfer y gwahoddiad
Sut i ymgeisio
Dylid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflen gais swyddogol, sydd ar gael yn y pecyn ymgeisio isod. Sicrhewch eich bod yn darllen y pecyn cais i sicrhau eich bod yn darparu'r holl ddogfennaeth a manylion am eich prosiect y gofynnir amdanynt ar y ffurflen gais.
Bydd gofyn i geisiadau gan grwpiau cymunedol a mudiadau elusennol ddarparu'r ddogfennaeth ganlynol i gefnogi cynnydd y cais:
- Copi o'ch cyfrifon diweddaraf
- Mantolen banc ddiweddar (llai na 3 mis oed)
- Copi o'ch cyfansoddiad neu femorandwm
- Polisi Diogelu
- Polisi Gwirfoddoli
- Manylion yswiriant
Gwneud cais am Gronfa Trailblazer 2026/2027
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau
Ceir manylion y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u llenwi, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, isod 8 a.m. Dydd Llun 3 Awst 2026
Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried. Bydd ceisiadau sy'n dal i fod yn anghyflawn 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau a nodwyd, yn cael eu tynnu oddi ar restr y Panel ac ni fyddant yn cael eu hystyried. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau lle nad yw unrhyw un/rai o'r dogfennau ategol y gofynnwyd amdanynt wedi cael eu cyflwyno.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Grantiau ‘Trailblazer’, anfonwch neges trwy e-bost i: CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2026
Nôl i’r Brig