Grant Cydlyniant Cymunedol 2026
Mae’r Grant Cydlyniant Cymunedol yn cynnig cyfle i chi helpu i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a dod â phobl ynghyd.
Mae'r grant hwn yn agored i unrhyw grŵp cymunedol, ysgol neu sefydliad trydydd sector ym mwrdeistrefi Caerffili, Blaenau Gwent a/neu Dorfaen. Gall grantiau gwerth hyd at £2,000 gael eu dyfarnu i brosiectau llwyddiannus yn seiliedig ar sut y bydd pob prosiect yn anelu i annog cynhwysiant ac undod (fodd bynnag, gallwch wneud cais am gyllid rhwng £500 a £2000 fesul prosiect).
Ni all y grant hwn gefnogi prosiectau cyfalaf sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, adnewyddu adeiladau.
‘Ni fu cymuned erioed mor bwysig, ac mae adeiladu ymdeimlad cryf o berthyn i bawb yn un o’r egwyddorion craidd yr ydym yn anelu at eu cefnogi’.
Rydym yn bwriadu ariannu prosiectau sy'n herio gwahaniaethu, yn hyrwyddo cynhwysiant a/neu'n rhoi cyfleoedd i bobl na fyddent fel arfer yn dod at ei gilydd i ddathlu lle maent yn byw, rhannu diddordebau, neu i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
Diben ac Amcanion y Grant
Anogir ceisiadau gan grwpiau sy’n:
- Hyrwyddo ymdeimlad cadarn o berthyn, efallai yr hoffech feddwl am sut mae eich prosiect yn hyrwyddo treftadaeth leol, neu sut mae eich prosiect yn dathlu eich cymuned
- Annog aelodau’r gymuned i ddod ynghyd i annog diddordebau a rhennir, efallai yr hoffech feddwl sut mae eich prosiect yn hyrwyddo cynhwysiant, taclo unigrwydd neu’n cefnogi undod.
- Herio gwahaniaethu, rhagfarn ac annog cynhwysiant, efallai yr hoffech feddwl am sut mae eich prosiect yn delio ag anoddefgarwch, stereoteipiau a rhagfarn (er enghraifft, gwrth-Semitiaeth neu Islamoffobia), neu sut mae eich prosiect yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac yn helpu i feithrin cysylltiadau da o fewn ac ymhlith pob cymuned.
- Darparu gweithgareddau sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig a meithrin cydlyniant cymunedol, efallai yr hoffech ystyried sut mae eich prosiectau yn cynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr; Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches neu gymunedau eraill yng Nghaerffili, Torfaen a/neu ardal Blaenau Gwent.
Cyn cyflwyno cais, gofynnwch i chi’ch hun
- A yw eich prosiect yn rhoi cyfleoedd i drigolion ymuno?
- A yw eich prosiect yn dangos ymrwymiad i greu a hyrwyddo Cydlyniant Cymunedol?
- Faint o aelodau'r gymuned allai gymryd rhan yn eich prosiect, neu gyrhaeddiad eich prosiect?
- A oes unrhyw aelodau neu grwpiau cymunedol penodol y mae eich prosiect am eu cefnogi neu weithio gyda nhw?
Dyddiad Cau’r Cais: Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026
Croesewir ceisiadau trwy'r ffurflen gais atodol wedi’i hanfon trwy e-bost i communitycohesionteam@torfaen.gov.uk
Community Cohesion Grant Application Form
Diwygiwyd Diwethaf: 15/05/2026
Nôl i’r Brig