Casgliadau o Dŷ i Dŷ - Gwneud Cais am Drwydded

Casgliadau o Dŷ i Dŷ
Crynodeb o'r Drwydded

Er mwyn cynnal casgliadau o dŷ i dŷ at ddibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen briodol yr awdurdod lleol.

 

Rhaid eich bod yn unigolyn addas a phriodol.

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

 

Rheoliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Proses Gwerthuso Cais

Nid oes darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Gwneud cais ar-lein

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded casgliadau o dŷ i dŷ neu newid manylion trwydded sy'n bodoli eisoes, ewch i gov.uk.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet.

 

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y gwrthodiad.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet.

 

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach

Dim

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig