Genedigaeth - Cofrestru

Pryd mae'n rhaid cofrestru genedigaeth?

O fewn chwe wythnos o ddyddiad geni'r babi (42 diwrnod). Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hysbysu cofrestryddion am enedigaethau sydd wedi digwydd yn eu hardal.

Ble gellir cofrestru genedigaeth?

Gallwch gofrestru genedigaeth eich babi gyda'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich babi ei eni, neu gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru a Lloegr a datgan y wybodaeth sy'n ofynnol.

Trefniant gweithio partneriaeth Gwent

Gwnaed trefniadau newydd ar gyfer pob genedigaeth yng Ngwent neu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Os cafodd eich babi ei eni yn ardaloedd cyngor Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd neu Dorfaen, gallwch gofrestru'r enedigaeth yn unrhyw rhai o'r swyddfeydd cofrestru yn yr ardaloedd hynny.

Cysylltwch â'ch swyddfa leol i wneud trefniadau:

Os na allwch fynd i un o'r swyddfeydd hyn, gallwch ymweld ag unrhyw swyddfa gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr, a byddant yn anfon y manylion atom.

Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i un o ardaloedd y cynghorau hyn, gallwch fynd i unrhyw un o'r swyddfeydd hyn a bydd y cofrestrydd yn anfon y manylion i'r ardal lle cafodd y babi ei eni.

Faint o amser y mae cofrestru genedigaeth yn ei gymryd?

  • Tua 30 munud.

Faint yw cost cofrestru genedigaeth?

  • Ni chodir tâl am gofrestru genedigaeth baban.
  • Mae Tystysgrifau Geni yn £12.50 yr un ar yr adeg cofrestru.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

Os yw rhieni'r plentyn yn briod â'i gilydd adeg yr enedigaeth, gall y naill riant neu'r llall gofrestru'r enedigaeth.

Os nad yw'r rhieni'n briod, gellir cofnodi manylion y tad yn y gofrestr dim ond os yw'r ddau riant yn dod gyda’i gilydd i gofrestru'r enedigaeth.

Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â'r swyddfa gofrestru ar 01495 742 132 i gael cyngor

Sylwer: Bydd rhieni a enwir ar y gofrestr yn cael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn awtomatig.

Os nad yw manylion y tad yn cael eu cofnodi ar adeg y cofrestru, efallai y bydd modd gwneud hyn yn ddiweddarach trwy ailgofrestru. Cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 i gael arweiniad pellach.

Pa ddogfennau fydd angen i mi ddod â nhw pan fyddaf yn cofrestru babi?

Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn cofnodi manylion yn gywir ar gofnod Genedigaeth, dylech ddod â rhai o'r dogfennau a ganlyn gyda chi i'r apwyntiad i gadarnhau manylion y rhieni:

  • Pasbort
  • Tystysgrif geni
  • Trwydded yrru
  • Tystiolaeth o gyfeiriad (fel bil treth y cyngor)
  • Os ydych chi’n briod neu wedi uno trwy bartneriaeth sifil, yn gwpwl, copi o’ch tystysgrif briodas/Partneriaeth Sifil

Cywiriadau i gofnod Geni wedi'i gwblhau

Wrth gwblhau cofrestriad rhaid i chi edrych ar ddalen y gofrestr yn ofalus. Wrth lofnodi'r cofnod wedi'i gwblhau rydych chi'n nodi bod popeth yn gywir a bod y datganiad yn gywir.

Os na fyddwch yn sylwi ar wall wrth wirio a llofnodi'r cofrestriad (genedigaeth, marwolaeth, priodas, partneriaeth sifil) y ffi i wneud cais i'w chywiro fydd £83 neu £99 (yn dibynnu ar y math o gywiriad sydd ei angen)

Sylwer: Nid yw’r ffi yn sicrhau y gellir fynd ati gywiro.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig