Cofrestru genedigaeth farw

Mae angen cofrestru genedigaeth farw yn ffurfiol. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd y gall hyn fod i rieni ar adeg hynod o emosiynol.

Mae plentyn sy'n cael ei eni'n farw yn blentyn a aned ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd, plentyn na wnaeth anadlu na dangos unrhyw arwyddion eraill o fywyd. Pan fydd plentyn yn cael ei eni'n farw, bydd y fydwraig neu'r meddyg yn rhoi tystysgrif feddygol genedigaeth farw a fydd yn cael ei defnyddio i gofrestru'r baban. Mae hyn yn rhoi cyfle i rieni gydnabod eu plentyn yn swyddogol.

Ble a phryd y dylwn gofrestru genedigaeth farw?

Gallwch gofrestru genedigaeth farw gyda'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd y baban ei eni, neu gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru a Lloegr a gwneud datganiad o'r wybodaeth sy'n ofynnol. Sylwch y gallai cofrestru genedigaeth farw trwy ddatganiad olygu oedi cyn derbyn y gwaith papur sy'n angenrheidiol i ganiatáu i'r angladd fynd rhagddi.

Os bydd yr enedigaeth farw yn digwydd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, weithiau gellir cofrestru yn yr ysbyty cyn i'r fam gael ei rhyddhau. Bydd bydwragedd yr ysbyty yn gallu eich cynghori ar y weithdrefn ar gyfer hyn.

Pwy all gofrestru genedigaeth farw?

Gall y naill riant neu'r llall gofrestru ar yr amod eu bod yn briod/yn bartneriaid sifil adeg yr enedigaeth farw.

Os nad oeddent yn briod/partneriaid sifil, bydd angen i'r ddau riant fod yn bresennol er mwyn cynnwys manylion y ddau riant yn y gofrestr geni ac ar y dystysgrif geni.

Os mai mam y babi'n unig a all fod yn bresennol, dim ond ei manylion hi fydd yn ymddangos yn y gofrestr. Os nad yw'r tad / rhiant yn bresennol, ni fydd ei fanylion yn cael eu cofnodi yn y cofrestriad.

Os na all y rhieni fod yn bresennol mae yna bobl eraill sy'n gallu cofrestru'r enedigaeth farw a bydd ein staff yn barod iawn i esbonio'r opsiynau.

Cysylltwch â ni ar 01495 742132 i gael arweiniad pellach.

Gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y cofrestru

Yn ogystal â'r dystysgrif feddygol a gyhoeddwyd gan y fydwraig neu'r meddyg, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Man geni a dyddiad geni'r babi
  • Os yw'r rhieni am enwi'r babi, yr enw a'r cyfenw
  • Rhyw y babi
  • Enwau, cyfenwau, man geni a galwedigaeth y rhieni
  • Cyfenw'r fam cyn iddi briodi (os yw'n berthnasol)

Gofynnir i chi wirio'r wybodaeth a gofnodwyd yn ofalus iawn a'i llofnodi i gadarnhau ei bod yn gywir. Mae'n bwysig bod y wybodaeth a gofnodir yn gywir, oherwydd gallai cywiro gwallau a ddarganfuwyd ar ôl llofnodi'r gofrestr achosi oedi, anghyfleustra a gofid diangen. Efallai y codir ffi hefyd.

Pa ddogfennau fyddaf yn eu derbyn ar ôl y cofrestru?

Ar ôl y cofrestru byddwch yn derbyn y dogfennau a ganlyn:

  • tystysgrif sy'n cynnwys unrhyw enwau a roddwyd i'r plentyn, dyddiad yr enedigaeth farw, enw'r rhiant neu'r rhieni sy'n llofnodi'r gofrestr a'r ardal gofrestru lle digwyddodd yr enedigaeth farw.
  • Tystysgrif genedigaeth farw - dyma union gopi o'r cofnod yn y gofrestr
  • Tystysgrif am ddim ar gyfer claddu neu amlosgi - dyma'r dystysgrif y mae angen i chi ei rhoi i'r trefnydd angladdau sy'n trefnu'r angladd

A oes rhaid i mi dalu ffi?

Na. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig