Economi a'r Amgylchedd
Mae'r adran Economi a'r Amgylchedd yn gweithio i ddarparu amgylchedd glân, gwyrdd a chynaliadwy ac economi ffyniannus i breswylwyr a busnesau yn Nhorfaen. Ein staff medrus a phrofiadol yw asgwrn cefn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y fwrdeistref.
Mark Thomas yw Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro yr Economi a'r Amgylchedd.
Mae'r gwasanaeth wedi'i rannu i’r meysydd a ganlyn:
- Gwastraff ac ailgylchu
- Yr amgylchedd
- Priffyrdd, newid yn yr hinsawdd ac ynni
- Economi, asedau, eiddo ac adfywio
- Cynllunio a datblygu
- Diogelu'r cyhoedd
Mae gan Mark Thomas gyfrifoldeb strategol dros:
- Gwastraff ac ailgylchu
- Priffyrdd
- Ymateb i newid yn yr hinsawdd
Gareth Beer yw Pennaeth yr Economi a Lle ac mae'n gyfrifol am:
- Rheoli asedau
- Cynllunio (rheoli datblygu a pholisi cynllunio)
- Cynnal eiddo ac adeiladu
- Adfywio
- Datblygu economaidd strategol a chyllid allanol
Daniel Morelli yw Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd ac mae'n gyfrifol am:
- Iechyd a diogelwch bwyd
- Safonau Masnach
- Tai, gorfodi materion llygredd a niwsans statudol ee sŵn
- Trwyddedu
- Pwysau a mesurau
- Amgylchedd
Huw Roberts yw'r Prif Swyddog Cynllunio Statudol.
Cysylltu â ni
Dylid anfon gohebiaeth at:
Yr Adran Economi ac Amgylchedd Y Ganolfan Ddinesig Pont-y-pŵl Torfaen NP4 6YB
Diwygiwyd Diwethaf: 02/12/2024
Nôl i’r Brig