Oedolion a Chymunedau
Crëwyd y Gyfarwyddiaeth Oedolion a Chymunedau i hyrwyddo ac atgyfnerthu'r rôl hanfodol y mae ein cymunedau yn ei chwarae wrth wella tegwch iechyd, lles unigol a natur fywiog ein lleoedd lleol.
Rydym am gefnogi trigolion yn Nhorfaen i fyw bywyd iach, cyflawn ac annibynnol yn eu cymuned leol. Mae hyn yn cynnwys swyddogaethau’r Cyngor o ran cysylltu cymunedol, ail-alluogi a gofal cymdeithasol i oedolion.
Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid ledled Torfaen i helpu'r nifer cynyddol o grwpiau, sefydliadau a gwirfoddolwyr cymunedol sy'n hanfodol i gymuned ffynnu a bod yn iach. Rydym yn gweithio ar draws adrannau'r Cyngor i sicrhau bod ein gwasanaethau'n cael eu trefnu o amgylch y gymuned ac yn cael eu llywio gan y data a’r wybodaeth busnes orau.
Dave Leech yw Cyfarwyddwr Strategol Oedolion a Chymunedau
Mae'r Gwasanaeth wedi'i rannu'n bedwar Maes Gwasanaeth
- Gwasanaethau Oedolion a Chomisiynu
- Cymunedau ac Adnewyddu
- Cwsmeriaid, TG a Materion Digidol
- Uned Cefnogi’r Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Oedolion a Chomisiynu
Sarah Paxton yw Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chomisiynu ac mae'n gyfrifol am
- Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Ailalluogi
- Technoleg gynorthwyol
- Prydau cymunedol
- Comisiynu
Cymunedau ac Adnewyddu
Bethan McPherson yw Pennaeth Cymunedau ac Adnewyddu ac mae'n gyfrifol am
- Dysgu Oedolion a'r Gymuned
- Cysylltwyr Cymunedol
- Datblygu Cymunedol
- Cyflogadwyedd a Datblygu Sgiliau
- Yr Economi Sylfaenol
- Fferm Gymunedol Greenmeadow
- Adfywio
Cwsmeriaid, TG a Materion Digidol
James Vale yw Pennaeth yr Adran Cwsmeriaid, TG a Materion Digidol ac mae'n gyfrifol am
- Gofal Cwsmeriaid
- Data ac Ymchwil
- Trawsnewid Digidol
- Ymgysylltu TG
- Llyfrgelloedd
- Ailgynllunio Gwasanaethau
Uned Cefnogi’r Gwasanaethau Cyhoeddus
Lyndon Puddy yw Pennaeth Uned Cefnogi’r Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae'n gyfrifol am
- Argyfyngau Sifil Posibl, Cynllunio rhag Argyfyngau a Pharhad Busnes
- Diogelwch Cymunedol, Cydlyniant Cymunedol ac Ailsefydlu Ffoaduriaid
- Cyfathrebu Corfforaethol
- Etholiadau
- Ymgysylltu a Chyfranogiad
- Cydraddoldeb a'r Gymraeg
- Polisi a Phartneriaethau
- Cofrestryddion
- Arlwyo a Glanhau mewn Ysgolion
- Tai: Strategol a Gweithredol
Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2024
Nôl i’r Brig