Cynllun Rheoli'r Perygl o Lifogydd

Mae llifogydd yn parhau’n fygythiad mawr i gymunedau ar draws Cymru, ac mae’n bwysig rheoli’r perygl drwy gynllunio’n ofalus er mwyn lleihau’r perygl i’r cymunedau. Mae cynllunio rheoli perygl llifogydd yn galluogi awdurdodau rheoli risg i ddatblygu gwell dealltwriaeth o berygl llifogydd o bob math a chytuno ar flaenoriaethau i reoli’r perygl hwnnw.

Datblygwyd y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd hwn gyda hyn mewn golwg ac mae’n nodi sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rheoli llifogydd dros y 6 blynedd nesaf er mwyn i’r cymunedau a’r amgylchedd sydd yn wynebu’r perygl mwyaf fod ar eu hennill fwyaf. Wrth wneud hynny, mae’r CRhPLl hwn yn symud ymlaen â’r amcanion a’r camau gweithredu a nodwyd yn ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

Mae’r CRhPLl hwn hefyd yn anelu at gyflawni rhai o’r amcanion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, lle ceir fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru drwy bedwar amcan cyffredinol:

  • Lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol a’u cynnwys yn yr ymateb i’r perygl hwnnw.
  • Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol.
  • Blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Tel: 01495 762200

Nôl i’r Brig