Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli'r Perygl o Lifogydd

Mae Awdurdodau Lleol bob amser wedi bod â chyfrifoldebau mewn perthynas â chyrsiau dŵr cyffredin, ac yn ymarferol mae’r rhan fwyaf wedi arwain wrth ddelio â digwyddiadau llifogydd dŵr wyneb cyn y newidiadau yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Y Ddeddf). Dan delerau’r Ddeddf, maent nawr yn dod yn Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ac yn gyfrifol am yr hyn a elwir yn ‘Beryglon Llifogydd Lleol’.

Diffinnir Perygl Llifogydd Lleol yn y Ddeddf fel Perygl Llifogydd yn dod o:

  • Cyrsiau dŵr cyffredin (mae hwn yn gwrs dŵr nad yw’n ffurfio rhan o brif afon ac yn cynnwys llyn, pwll neu ardal arall o ddŵr, sy’n llifo i mewn i gwrs dŵr cyffredin).
  • Dŵr ffo (glaw neu ddŵr arall sydd ar yr wyneb neu’r ddaear ac nad yw wedi mynd i gwrs dŵr, system ddraenio neu garthffos gyhoeddus).
  • Dŵr wyneb (dŵr yw hwn sydd wedi trylifo i’r ddaear a gall ffurfio pyllau a nentydd danddaear a all arllwys uwchben y ddaear ond yn is lawr yn y ddalgylch).

Mae gofyn i bob ALlLlA ddatblygu, cadw (sy’n cynnwys diweddaru ac adolygu), defnyddio a monitro defnydd strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol yn eu hardal (Strategaeth Leol). Rhaid iddynt hefyd baratoi a chyhoeddi crynodeb o’r Strategaeth Leol, gan gynnwys canllawiau ynglŷn â gwybodaeth berthnasol. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu bod pob ALlLlA yn cyhoeddi canllawiau ynglŷn â defnyddio’r Strategaeth Leol yn ei ardal.

Rheoli perygl llifogydd lleol yw cyfrifoldeb pob ALlLlA. Rhaid i’r Strategaeth Leol bennu pwy yw’r Awdurdodau Rheoli Perygl yn yr ardal a’u swyddogaethau perthnasol. Wrth ddatblygu Strategaethau Lleol, rhaid i’r ALlLlA ymgynghori â’r cyhoedd ac Awdurdodau Rheoli Perygl eraill a effeithir gan y strategaeth.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel ALlLlA rydym wedi datblygu ein Strategaeth Leol ein hunain ar y cyd â’r pedwar amcan trosfwaol ar gyfer rheoli llifogydd a risg erydu arfordirol yng Nghymru fel y nodwyd yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ac a restrir isod.

Y pedwar amcan trosfwaol yw:

  • Lleihau’r effeithiau ar unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd;
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a chysylltu gyda phobl ar yr ymateb i berygl llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Darparu ymateb effeithiol a chyson i lifogydd; a
  • Blaeoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf.

Lawrlwythwch gopi o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yma

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig