Ardaloedd Cadwraeth
Mae ardaloedd cadwraeth yn rhannau penodol a nodedig o'r amgylchedd hanesyddol, a ddynodwyd gan awdurdodau cynllunio lleol oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Ar hyn o bryd, mae chwe ardal gadwraeth yn Nhorfaen: Canol Tref Blaenafon; Canol Tref Pont-y-pŵl; Llantarnam; Cwmbrân Uchaf; Cwmafon; Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Mae'r dogfennau yn y dolenni isod yn disgrifio cymeriad pob ardal gadwraeth.
Dynodwyd pob ardal i helpu i warchod a gwella ei chymeriad a'i hymddangosiad arbennig. Cafodd y ffiniau eu nodi a'u dynodi ar ôl asesiad o gymeriad yr ardal, gan gynnwys cyfraniad adeiladau unigol neu grwpiau o adeiladau, coed, mannau agored a strydweddau allweddol.
Rhaid i'r Cyngor anelu at warchod neu wella cymeriad neu ymddangosiad ardaloedd cadwraeth. Mae'r dynodiad yn rhoi haen ychwanegol o reolaeth dros fathau gwahanol o ddatblygiadau fel dymchwel, a hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â thai annedd (gweler Canllawiau cynllunio ar gyfer y cyhoedd Llywodraeth Cymru). Bydd y Cyngor yn ystyried ffurf, dyluniad a manylion y cynigion datblygu yn ofalus, a'r effaith debygol ar gymeriad yr ardal gadwraeth.
Mae angen caniatâd i weithio ar goed mewn ardaloedd cadwraeth, fel yr eglurir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar Goed Sy’n Cael Eu Gwarchod . Gallwch wneud cais ar-lein i weithio ar goed mewn mannau cadwraeth (cliciwch 'Mewngofnodi' a chofrestru cyfrif) neu llenwch ffurflen gais i weithio ar goed mewn mannau cadwraeth (a’i hanfon mewn e-bost i planning@torfaen.gov.uk).
Os ydych chi'n ystyried gwneud newid i'ch eiddo ac eisiau cyngor, gallwch gyflwyno ymholiad cyn cyflwyno cais neu ofyn am gyngor anffurfiol gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/02/2026
Nôl i’r Brig