Seremoni swyddogol torri tywarchen yn Ysgol Gynradd Maendy

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Mai 2024
Official sod cutting ceremony at Maendy Primary

Ymunodd disgyblion a staff â Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg ac AS dros Dorfaen, i dorri tywarchen, yn ystod seremoni swyddogol i nodi dechrau adeiladu’r ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Maendy.

Mae torri’r dywarchen yn garreg filltir arwyddocaol iawn wrth i waith adeiladu ysgol newydd £17.1miliwn, â lle i 420 o ddisgyblion fynd rhagddo. Bydd yr ysgol hefyd yn cynnwys cyfleusterau Gofal Plant newydd ac mi fydd hefyd yn gartref i leoliad Dechrau’n Deg.

Ariennir y cyfleusterau newydd sy'n cael eu hadeiladu ar safle'r ysgol bresennol gan Gyngor Torfaen a Llywodraeth Cymru. Mae'r buddsoddiad yn rhan o raglen gyfalaf gymeradwy’r cyngor a dyma'r prosiect nesaf i'w gyflawni fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a elwid gynt yn rhaglen ysgolion a cholegau yr 21ain Ganrif. 

Disgwylir i'r gwaith o adeiladu'r ysgol newydd gael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2025 a rhagwelir y bydd y cyfleusterau cymunedol yn agor ym mis Chwefror 2026. 

Bydd disgyblion yn parhau i ddysgu yn yr ysgol bresennol hyd nes y bydd gwaith adeiladu'r ysgol newydd wedi'i gwblhau.  Yna bydd hen adeiladau'r ysgol yn cael eu dymchwel, a bydd tir yr ysgol yn cael ei dirlunio i gynnwys dau faes chwarae, parth ysgol goedwig, offer chwarae a maes chwarae glaswellt.

Diolchodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac AS dros Dorfaen, i'r Prif Fachgen a'r Brif Ferch, Max a Lola, a dywedodd: "Rwy'n falch ein bod ni,  fel Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi mewn adeiladu ysgolion gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu ysgolion o ansawdd uchel i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae'n rhaid i mi gydnabod rôl y cyngor sydd wedi blaenoriaethu cyllid yn gyson i sicrhau cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf."

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg,: “Mae'r ysgol hon yn edrych tua'r dyfodol. Hon fydd ysgol garbon sero net gyntaf Torfaen a bydd nifer y lleoedd yn yr ysgol yn codi o 231 i 420 i gynnwys meithrin â lle i 30 sy’n cymryd i ystyriaeth y twf a ragwelir yn niferoedd y disgyblion. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer y gymuned ehangach, sef canolfan asesu anghenion ychwanegol, Dechrau'n Deg, cylch chwarae a chyfleusterau gofal plant."

Diolchodd y Cynghorydd Clark i Mrs Thomas am ei hymroddiad i'r ysgol yn rhinwedd ei swydd fel athrawes a phennaeth yn ystod y 30 mlynedd diwethaf a dymunodd ymddeoliad hapus iawn iddi ar ddiwedd y tymor.

Cyfanswm cost yr ysgol newydd o ran y gwaith a’r dylunio cyn adeiladu yw £17,131,842, gyda’r cyngor yn cyfrannu £5,220,608. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid ar gyfer y gweddill gyda £10,790,865 yn cael ei glustnodi gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a £1,120,369 gan y Grant Cyfalaf Gofal Plant.  

Fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt, mae'r cyngor wedi ymrwymo bron i £130 miliwn ar ysgolion newydd, ymestyn ac adnewyddu ysgolion, a hynny ers 2015. 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/05/2024 Nôl i’r Brig