Lluosi eich sgiliau mathemateg

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Mai 2024
national numeracy day

Mae rhaglen sydd wedi helpu mwy na 300 o bobl i wella eu hyder rhifedd, yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf heddiw ar Ddiwrnod Cenedlaethol Rhifedd.

Mae prosiect Lluosi Cyngor Torfaen yn cynnig ystod eang o gymorth rhifedd i blant, oedolion a theuluoedd, yn cynnwys Coginio ar Gyllideb, grŵp Rapsgaliwns Rifau i rieni a phlant bach, Mathemateg i Rieni, Grŵp Ffitrwydd i’r Teulu a chymwysterau yn cynnwys TGAU Mathemateg.    

Yn ddiweddar, fe lwyddodd Joanne a Lizzy Marsh, mam a merch o Gwmbrân, i gwblhau gweithdy â thema coginio, a wnaeth ganiatáu iddynt ddod yn fwy craff mewn

archfarchnadoedd, gwella eu sgiliau mathemateg sylfaenol, ac ehangu eu sgiliau coginio.

Dywedodd Joanne, "Cafodd rhaglen Lluosi ei hargymell i ni ac rydym wedi mwynhau dod allan o’r tŷ  a chwrdd â phobl newydd. Roedd y rhaglen yn hynod o werth chweil ac mae  wedi cael effaith gadarnhaol ar ein hyder yn gyffredinol. O ganlyniad byddwn yn mynychu cwrs Academi Cegin Lluosi eto i ennill achrediad. Ein gobaith yw ymuno â llawer o gyrsiau yn y dyfodol hefyd."

Mae Lluosi yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU. Ei nod yw helpu pobl i fagu hyder gyda rhifedd.. 

I nodi blwyddyn ers cychwyn y rhaglen, ddydd Mercher, aeth tîm Lluosi Torfaen ati i gynnal cyfres o weithdai yn Ysgol Gynradd Coed Efa, Neuadd Mount Pleasant a Chanolfan Addysg Croesyceiliog yng Nghwmbrân. 

Eglurodd Hannah Bedford, Rheolwr Cyflawni ac Ymgysylltu Lluosi, “Ein prif ffocws yw creu gweithgareddau pleserus sy'n caniatáu i'n dysgwyr wneud synnwyr o heriau mathemateg cyffredin sy'n digwydd mewn bywyd bob dydd. Mae hyn yn cynnwys sgiliau bywyd bob dydd fel rheoli arian, paratoi bwyd, chwarae cerddoriaeth, cadw’n iach, prosiectau DIY, a llawer mwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae gan y rhaglen hon rywbeth i bawb, p'un a ydych chi'n mwynhau mathemateg ac eisiau ei archwilio ymhellach, neu efallai bod gennych ddiffyg hyder yn eich sgiliau rhifedd ac am gefnogi’ch plant i lwyddo mewn mathemateg.

“Mae hefyd yn rhan allweddol o'n hymrwymiad i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i wella eu haddysg a'u cymwysterau fel y gallant gyflawni eu nodau.”

Gallwch brofi eich sgiliau rhifedd ar y gwiriwr rhifedd cyfrinachol yma.

I gael mwy o wybodaeth am y gwaith a'r cyrsiau sydd ar y gorwel, y gallwch eu cyflawni drwy Lluosi, cysylltwch â’r tîm ar 01633 647743, e-bostiwch multiply@torfaen.gov.uk, neu ewch i wefan Cyngor Torfaen. 

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2024 Nôl i’r Brig