Lansio ymgynghoriad toiledau cyhoeddus

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Mai 2024

Mae rhan gyntaf ymgynghoriad dwy ran wedi'i lansio i wella’r hyn a ddeellir am y toiledau sydd ar gael yn Nhorfaen a pha mor hygyrch ydynt.   

Mae rhan gyntaf yr ymgynghoriad wedi'i anelu at fusnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol sydd â thoiledau ar eu safle ac mae’n ceisio canfod a gall unrhyw un fynd ati i’w defnyddio pan fydd angen.  

Yn y Deyrnas Unedig, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus ar hyn o bryd, ond disgwylir iddynt baratoi ac adolygu Strategaethau Toiledau Lleol.   

Yn 2019, cymeradwyodd Cynghorwyr Torfaen Strategaeth Toiledau Lleol, sy’n ymrwymo i barhau i gynnig y ddarpariaeth bresennol a gynhelir gan y Cyngor ym Mlaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân. Aeth y Cyngor ati hefyd i ymgysylltu â busnesau a lleoliadau cymunedol ar y pryd i lunio rhestr o doiledau sy'n hygyrch i'r cyhoedd ac maent bellach yn ceisio diweddaru ac adolygu'r rhestr hon.  

Mae toiledau cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau. Gall y term gynnwys 'toiledau i gwsmeriaid' ond dim ond os yw rheolwyr y busnes yn hapus i bobl alw heibio i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, heb orfod prynu yn ystod yr ymweliad.  

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i ddiweddaru'r Strategaeth Toiledau Lleol a helpu’r Cyngor i ddeall unrhyw rwystrau posib allai godi o ran cynnig mynediad at doiledau cyhoeddus. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd,: “Yn rhan gyntaf yr ymgynghoriad hwn, hoffem i bob busnes, sefydliad a grŵp cymunedol ddweud wrthym am unrhyw doiledau sydd ganddynt, a rhoi gwybod i ni a fyddent yn hapus i’r cyhoedd ddefnyddio’r cyfleusterau hyn ai peidio, hyd yn oed os nad ydynt yn gwsmer.  

“I rai, gall gwybod ble mae eu toiledau agosaf, fod yn ffactor o ran penderfynu a ydynt yn gadael y tŷ ai peidio i fynd wrth eu pethau bob dydd, fel siopa, cymdeithasu neu i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol. Mae rhwydwaith digonol o doiledau yn hanfodol mewn unrhyw ardal, nid yn unig o ran cynhwysiant ond hefyd i gefnogi'r economi leol”  

“Mae defnyddio’r toiled yn angen sylfaenol, a gorau po fwyaf o’r cyfleusterau hyn fydd ar gael. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gyfoes o’r toiledau a’r cyfleusterau sydd ar gael ledled y fwrdeistref, a pha mor hygyrch ydynt.”  

Mae rhan gyntaf yr ymgynghoriad i fusnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn unig ac mae’n cau ddydd Gwener 31 Mai.   

Bydd ail ran yr ymgynghoriad, sydd wedi'i anelu at drigolion, yn cael ei lansio ar ôl i'r wybodaeth hon sy'n llywio'r Strategaeth Toiledau Lleol gael ei diweddaru a'i hasesu. Anogir trigolion i gofrestru ar www.getinvolved.torfaen.gov.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad hwn ac ymgynghoriadau eraill.  

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad 

Canfod mwy am doiledau cyhoeddus yn Nhorfaen  

  

Diwygiwyd Diwethaf: 08/05/2024 Nôl i’r Brig