Disgybl yn ennill arian i brynu car newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Mawrth 2024

Mae disgybl wedi llwyddo gyda chais am gyllid i brynu car newydd ar gyfer ei ysgol.  

Mae Deacon Walker yn mynychu’r ganolfan awtistiaeth yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac fe roddodd gyflwyniad i Ymddiriedolaeth Cwmbrân yn amlinellu sut fyddai cerbyd yn helpu disgyblion i gael mynediad i’r gymuned ac i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol.  

Mae’r ymddiriedolaeth yn rhoi nawdd i ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion, ac roedd Deacon wedi creu cymaint o argraff arni nes iddi ddyfarnu’r £20,000 sylfaenol i’w ddefnyddio i brynu cerbyd â saith sedd. 

Meddai Deacon, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 11: “Wir i chi, ges i fy llorio pan sylweddoles i ‘mod i wedi llwyddo gyda’r cais. Rwy’n hapus iawn am y gwaddol y byddaf yn ei adael ar fy ôl, gan wybod bod disgyblion eraill yn gallu elwa ar y car.”

Mae’r ganolfan yn cefnogi 22 o ddisgyblion ag awtistiaeth ac anghenion cysylltiedig er mwyn darparu addysg a chynnig cymaint o gynhwysiant â phosibl iddynt.

Meddai Caroline Payne, pennaeth y ganolfan ar gyfer Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r ffordd y mae Deacon wedi cyflwyno gerbron Ymddiriedolaeth Cwmbrân mewn ffordd mor broffesiynol, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Cwmbrân am roi ei ffydd ynom ni.”

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cael nifer cynyddol o fyfyrwyr â ganddynt anghenion mwy cymhleth, a byddai car yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cynnig yr un cyfle i bob disgybl i ymweld â darpariaethau fel Horseland a Chanolfan Serennu.”

Ychwanegodd Mark Poulton, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwmbrân: “Roedd Deacon yn ddyn ifanc cwrtais, hyderus ac anrhydeddus iawn sydd wedi defnyddio ei sgiliau i sicrhau’r ddarpariaeth hon er na fydd ef yno i’w mwynhau ei hun gan ei fod yn gadael yr ysgol. Dylai fod yn falch iawn o’i hun am fynegi ei hun mor dda trwy gydol y cyflwyniad.”  

Mae Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn gobeithio cael y car erbyn diwedd tymor yr haf. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Cwmbrân a sut i ymgeisio, cliciwch yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024 Nôl i’r Brig