Ysgolion Torfaen yn barod i ddathlu 15 blynedd o'r her teithio llesol i'r ysgol fwyaf yn y DU

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 11 Mawrth 2024
bikes

Mae’r wythnos yma’n nodi dechrau pythefnos Strolio a Rholio sy’n ceisio annog plant ysgol i deithio i’r ysgol mewn ffordd egnïol.

Mae’r digwyddiad, sydd yn ei 15fed flwyddyn yn cael ei gynnal gan Sustrans Cymru, yr elusen sy’n ceisio gwneud cerdded, rolio a seiclo’n haws.

Eleni mae saith ysgol yn Nhorfaen wedi cofrestru ar gyfer yr her i weld pa un all gofnodi’r nifer fwyaf o deithiau llesol.

Cynhelir yr her gan Sustrans, yr elusen sydd â’r nod o’i gwneud yn haws i gerdded, olwyno a seiclo, mewn partneriaeth â’r prif noddwr Schwalbe Tyres UK a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Meddai Siani Colley-Nester, Cydlynydd Cwricwlwm a Chyfathrebu Sustrans Cymru: "Mae miliynau o ddisgyblion wedi derbyn yr her a chofleidio teithio llesol drwy gydol y 15 blynedd ddiwethaf o Stroliwch a Roliwch Sustrans, a dim syndod, gan fod y gystadleuaeth yn un mor hwyliog!

 “Nid yn unig y mae disgyblion a’u teuluoedd yn mwynhau pleserau taith egnïol i’r ysgol, maen nhw hefyd yn arbed arian ac yn gwella tagfeydd a’r amgylchedd o gwmpas eu hysgolion.”

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans yn agored i holl ysgolion cynradd ac uwchradd y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ysgolion ADY, ac mae gwobrau i’w hennill bob dydd.

Mae adnoddau am ddim ar gael i annog disgyblion i helpu lleihau llygredd aer a dysgu am fuddion teithio llesol iddyn nhw eu hunain, eu hysgol, eu cymdogaeth a’r blaned.

Ers inni ddechrau casglu data’r her yn 2011, mae disgyblion wedi teithio pellter syfrdanol o 23.9 miliwn o filltiroedd (1) ac wedi gwneud mwy na 15.9 miliwn o siwrneiau teithio llesol i’r ysgol.

Mae hynny’n oddeutu 200 o deithiau i’r lleuad, neu fwy na 1,900 o siwrneiau rownd y Ddaear (1), gan arbed 12,700 o dunelli o CO2 rhag llygru’r aer ar y daith i’r ysgol, o’r 31.7 miliwn o deithiau mewn ceir pe bai’r cyfranogwyr wedi cael eu gyrru i’r ysgol ac adref (1).

Cynhaliwyd ychydig yn llai na 2.7 miliwn o siwrneiau egnïol i 1,862 o ysgolion a gymerodd ran yn ystod her 2023, gan arbed amcangyfrif o 1,890 o dunelli o allyriadau CO2 o’i gymharu â phe bai’r siwrneiau a gofnodwyd wedi cael eu gwneud mewn ceir fel arall (2).

Meddai Xavier Brice, Prif Weithredwr Sustrans: “Ers 15 blynedd, mae miliynau o ddisgyblion ledled y Deyrnas Unedig wedi mwynhau cymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans drwy gerdded, olwyno a seiclo i’r ysgol gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd... ac ennill gwobrau ar yr un pryd!

“Mae’r her yn dangos bod pobl o bob oedran eisiau teithio’n egnïol. Mae rhieni’n arbed arian gan eu bod yn cael osgoi gyrru, ac mae plant yn cael bod allan yn yr awyr agored yn archwilio eu byd. Mae hyn yn rhoi arferion iach i’n plant, arferion y gallant eu harddel gydol eu hoes.”

Mae tîm teithio lles Cyngor Torfaen yn cefnogi ysgolion lleol i ddatblygu Cynlluniau Ysgol Teithio Llesol a chyflwyno seilwaith i gefnogi disgyblion i gerdded, seiclo neu gymryd sgwter i’r ysgol.

Mae wyth ysgol wedi cwblhau Cynlluniau Ysgol Teithio Llesol, gydag wyth yn rhagor yn gweithio ar eu cynlluniau eu hunain.

Dysgwch fwy am deithio llesol yn Nhorfaen

Ymunwch â’r her

Gwnewch sylw a rhannwch eich siwrneiau egnïol i’r ysgol gan ddefnyddio’r hashnod #StroliwchARoliwch neu #BigWalkandWheel

Dysgwch fwy am gofrestru ar gyfer Stroliwch a Roliwch Sustrans 2024

Dilynwch ni ar Twitter @SustransCymru ac ar Facebook

DIWEDD

Nodiadau i Olygwyr

  1. Amcangyfrifon yn unig yw’r ffigyrau hyn, ac maent yn dibynnu ar nifer o dybiaethau a chyfartaleddau cenedlaethol neu ranbarthol.
  2. Yn seiliedig ar amcangyfrifon moddau teithio tybiedig.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/03/2024 Nôl i’r Brig