Aur i frawd a chwaer o sêr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Mawrth 2024
Sports siblings

Mae Olivia a Myles Taylor, brawd a chwaer o Bont-y-pŵl, wedi bod yn amlygu eu hunain ym myd Jujitsu Brasil, diolch i gefnogaeth Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen.

Enillodd Olivia, 15, a Myles, 11, disgyblion yn Ysgol Gorllewin Mynwy, ill dau, fedalau aur ym Mhencampwriaeth Elît Jujitsu’r Byd 2023 yn Lloegr.

Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus wrth gael nifer o grantiau gan Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen, i helpu gyda chostau cystadlaethau, offer ar gyfer ymarfer a chostau teithio a llety.

Mae record drawiadol Olivia’n cynnwys bod yn Bencampwraig Ewropeaidd bedair gwaith, yn Bencampwraig Prydain nifer o weithiau, a hi yw Pencampwraig y Byd ar hyn o bryd.

Mae Myles wedi ennill nifer o fedalau aur hefyd ac ef oedd Pencampwr Ewrop 2022 ac mae’n Bencampwr No Gi y Byd ar hyn o bryd.

Mae’r ddau’n ymarfer yn Amos Martial Arts ym Mamheilad, Pont-y-pŵl, ble mae yna amrywiaeth o ddosbarthiadau gallu cymysg trwy gydol yr wythnos.

Yn anffodus, cafodd Olivia anap yn ddiweddar o ganlyniad i anaf drwg i’w phigwrn, ond mae hi’n ymarfer eto nawr ar ôl nifer o fisoedd ar yr ymylon.

Dywedodd Olivia: “Rydym ni’n ddiolchgar dros ben i Ymddiriedolaeth Mic Morris am eu cefnogaeth.  Maen nhw wedi ei gwneud yn bosibl i ni ddilyn ein camp a chyrraedd ein nodau. Ein gobaith yw ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau buddion ymarfer corff a byw’n iach.

“Ni fyddai unrhyw un o fy ngorchestion wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a chyfarwyddyd gan fy hyfforddwr, Ashley Amos, sydd wedi hyfforddi nifer o bencampwyr yn ei gampfa.”

Mae Olivia wedi ei dyrchafu bellach i’r gwregys oren ar ôl bod yn ddiguro gyda’r gwregys melyn ac ennill ei gornestau i gyd trwy ildiad.

Gan ei bod yn cwblhau TGAU yr haf yma, mae Olivia’n gobeithio bod yn hyfforddwraig Jujitsu gydag Amos Martial Arts, gan gyfrannu ymhellach i’r gamp sydd wrth ei bodd.

Dywedodd Myles, sydd wedi ei ddyrchafu i’r gwregys melyn ar ôl ei fuddugoliaeth ddiweddaraf: “Diolch am yr holl gefnogaeth, mae’n wirioneddol dda gwybod bod gyda ni gefnogaeth Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen”

Mae Myles hefyd yn paffio yng nghampfa Paffio Pont-y-pŵl, gan ennill dwy ornest yn 2023 gyda’r prif hyfforddwr, Mark James, ac mae hefyd yn cynrychioli ei ranbarth mewn rygbi yn yr Eidal, gan ennill twrnamaint Paese gyda’i dîm.

Gall mabolgampwyr ifanc rhwng 11 a 21 oed, sy’n byw yn Nhorfaen ac yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon ar lefel rhanbarthol neu genedlaethol, wneud cais am grant Mic Morris.

Y dyddiadau cau ar gyfer y ceisiadau nesaf yw Dydd Llun, 27 Mai. I wneud cais, ewch i: www.torfaenmicmorristrust.org.uk neu cysylltwch â Christine.philpott@torfaen.gov.uk

Dywedodd Christine Vorres, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Mic Morris: "Helpu’r mabolgampwyr ifanc yma i gyrraedd eu nod yw union amcan yr Ymddiriedolaeth. Rydym yn falch iawn gyda chynnydd Olivia a Myles, ac yn ddiolchgar ein bod ni wedi gallu eu cefnogi nhw.

“Mae’r holl arian o ddigwyddiadau Ymddiriedolaeth Mic Morris Trust yn cael ei ddefnyddio i roi grantiau i fabolgampwyr ifanc fel Olivia a Myles. Un o’r rhain yw ras 10k Torfaen sydd ar ddydd Sul 14 Gorffennaf eleni.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Chwaraeon Coffa Mic Morris yn 1988 er cof am Mic Morris, cyn-redwr rhyngwladol a fu farw o drawiad ar y galon yn 23 oed.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2024 Nôl i’r Brig