Cymuned yn canmol cyfleusterau ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Mehefin 2024
Community praises school facilities

Cymuned yn canmol cyfleusterau ysgol

Mae clybiau chwaraeon, dawnswyr, sgowtiaid a grwpiau brownis wedi canmol y cyfleusterau cyfoes yn Ysgol Croesyceiliog sydd nawr ar agor i’r gymuned.   

Agorwyd y datblygiad gwerth £30miliwn trwy gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac mae’n cynnwys maes chwarae pob tywydd gyda llifoleuadau, stiwdio dawns a theatr, i glybiau chwaraeon a grwpiau fis Hydref.

Ers hynny, mae dros 36 o grwpiau gwahanol wedi llogi’r cyfleusterau awyr agored a dan do ar gyfer dosbarthiadau dawns, criced, Brownis, cyngherddau, rygbi a phêl droed ieuenctid a hŷn, a rygbi cadair olwyn.

Dywedodd Adam Smith-Lucas, o Glwb Pêl-droed Cwmbrân: “Rhoddodd y cyfleusterau hyfforddi 3G ar gyfer y gaeaf gyfle i’r chwaraewyr gynnal eu sgiliau a’u lefelau ffitrwydd yn ystod y misoedd oer, mae’r cyfleusterau’n llawn cyfarpar gyda golau a lle amlbwrpas.”

Dywedodd Chris Page, Clwb Criced Llanarth: “Defnyddiodd ein clwb neuadd chwaraeon  Croesyceiliog ar gyfer timau hŷn ac iau, mae’r cyfleusterau yn ardderchog, yn hygyrch, yn fodern, yn lân, â golau digonol ac roedd yr offer i gyd o safon dda.

“Roedd y system archebu lle ar-lein yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn gweld pryd oedd y cyfleusterau ar gael fel bod modd i ni gynllunio ein defnydd, hefyd roedd y staff y daethom i gysylltiad â nhw yn gymwynasgar iawn, byddwn ni’n defnyddio’r cyfleusterau eto ac yn argymell i eraill wneud yn un peth.”

Dywedodd Dawson Jones MBE, Clwb Rygbi Pont-y-pŵl: “Ar ran Undeb Rygbi Ysgolion Pont-y-pŵl a’r Cylch, hoffwn i ddiolch i Ysgol Croesyceiliog am ddefnydd o’r cyfleusterau'r tymor diwethaf tra roedd ein caeau dan ddŵr, roedd yn help i dîm yr ardal ennill Cwpan DC Thomas yn Stadiwm Principality.”

Mae’r cyfleusterau ar agor chwe diwrnod yr wythnos yn ystod amser tymor, gydag oriau agor estynedig yn ystod gwyliau ysgol, ac mae lle i barcio ar y safle.  Am fwy o wybodaeth, ewch i Croesyceiliog School - Facility Lettings / School Hire ​​​​​​​

Mae Ysgol Croesyceiliog yn chwilio am noddwyr i dros 70 o dimau o chwaraeon sy’n cystadlu’n rheolaidd mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhanbarthol, 7 Bob Ochr Rosslyn Park, Hoci Merched Cymru, Pêl-droed, Pêl-rwyd De Cymru ac Athletau.

Byddai nawdd dillad ymarfer corff Croesyceiliog yn cynnwys:

  • Logos/enwau busnesau’n cael eu rhoi at y cit chwaraeon
  • Logos/enwau busnesau’n cael eu nodi ar adroddiadau o gemau mewn cylchlythyrau .
  • Logos/enwau busnesau ar wefan yr ysgol.
  • Llun o’r tîm yn eu cit, gan ddibynnu ar gyfyngiadau GDPR a chaniatâd rhieni, i fusnesau gael dangos eu cefnogaeth yn eu cymunedau lleol.

Os oes gyda chi neu fusnesau annibynnol lleol ddiddordeb mewn cyfleoedd noddi, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r rheolwr busnes, Faye Harman: f.harman@croesy.schoolsedu.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024 Nôl i’r Brig