Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Ionawr 2024
Fe fu dros 130 o blant yn cymryd rhan mewn cyfres o wersylloedd chwarae a gweithgareddau yn Stadiwm Cwmbrân yr wythnos ddiwethaf, wedi ei threfnu gan Wasanaeth Chwarae Torfaen.
Mae’r gwasanaeth chwarae wedi bod yn cynnal clybiau dros wyliau ysgol y Nadolig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnig cyfle i blant rhwng wyth a 12 oed i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, gêmau tîm ac amser gyda’u ffrindiau.
Cynhaliwyd nifer o sesiynau chwarae a seibiant arbenigol hefyd, mewn lleoliadau gwahanol, i 56 o blant ag arnynt angen cefnogaeth un-i-un.
Nawr, mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu gyda’i raglen chwarae dros yr haf.
Yn ogystal ag ennill sgiliau gwaith a phrofiad gwerthfawr o weithio gyda phlant a phobl ifanc, bydd gwirfoddolwyr hefyd yn cael hyfforddiant ac yn gymwys i hawlio £15 ar gyfer costau teithio a bwyd bob dydd.
Os hoffech chi fod yn wirfoddolwr chwarae, gallwch lenwi’r ffurflen gais ar-lein yma, neu, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Chwarae ar 01495 742322 neu anfonwch neges e-bost i andrea.sysum@torfaen.gov.uk
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae’n hyfryd clywed bod y sesiynau chwarae hyn wedi cael eu cynnig yn ystod wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, gan gefnogi llawer o deuluoedd ar draws y fwrdeistref.
“Mae’r cyfan yn bosibl diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr ymroddgar yng Ngwasanaeth Chwarae Torfaen, sy’n gweithio’n galed i gynnig darpariaeth chwarae o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc, trwy gydol y flwyddyn.
“Mae’r niferoedd uchel sydd wedi bod yn mynychu wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnal darpariaeth wedi’i staffio yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n golygu bod gan blant le diogel i chwarae â’u cyfoedion, ac mae hefyd yn gyfle i rieni a gofalwyr gael saib eu hunain.”