Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Chwefror 2024
Mae tîm o ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi cyrraedd y brig mewn cystadleuaeth F1 i ysgolion.
Mae tîm o ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi cyrraedd y brig mewn cystadleuaeth F1 i ysgolion.
Bu disgyblion Blwyddyn 11 yn cystadlu yn y dosbarth datblygu yn rhagbrawf rhanbarthol De Cymru gan ennill y categori arddangosfa orau, ar ôl gadael yn waglaw y tro diwethaf.
Bu Tîm ‘Speed Force Racing’ yn cystadlu yn y dosbarth datblygu yng Nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion, Rhanbarth De Cymru ar 9 Chwefror yn Amgueddfa Sain Ffagan.
Cynhaliwyd cystadleuaeth F1 STEM mewn ysgolion ers 1999. Nod y prosiect yw hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg mewn addysg a hynny mewn ffordd greadigol.
Bu disgyblion Blwyddyn 11 Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Pont-y-pŵl, yn gweithio’n ddyfal i ddylunio eu car rasio eu hunain a chreu portffolios dylunio, peirianneg a menter.
Meddai Luke Mitchell, 15 oed: “Roedd ennill yr arddangosfa orau yn deimlad braf iawn, ac ar ôl gadael yn waglaw y llynedd, roeddem yn benderfynol o fynd amdani eleni.”
“Diolch o waelod calon i’n noddwyr ACT am ddarparu byrddau arddangos ar ein cyfer, ac i’n noddwyr eraill, Phil Anslow Coaches a Flexible Options am eu cymorth ariannol. Rydym yn edrych ymlaen yn arw am gystadlu blwyddyn nesaf!”
Ychwanegodd Ieuan Griffin, 16 oed: “Roedd yn brofiad gwefreiddiol. Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn wych o ran datblygu hyder, sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus, a datblygu cysylltiadau ag ysgolion eraill oedd yn cymryd rhan.”
Meddai Catrin Rees, Athrawes Her Sgiliau: “Mae F1 mewn Ysgolion yn brosiect gwych yr ydym wedi bod yn gweithio arno am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’n wych gweld sut mae’r ceir a’r portffolios wedi esblygu.”
“Braf oedd eu gweld yn cymysgu gyda chystadleuwyr eraill, yn trafod eu prosiectau, ac yn rhannu syniadau, felly edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf!”
Os hoffech chi gymryd rhan, rhowch glic ar y wefan hon.