Fel mam, fel merch

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Chwefror 2024
mother daughter fitness class

Mae math newydd o ddosbarth ffitrwydd wedi'i anelu at famau a merched wedi helpu un fenyw i oresgyn poen yn ei chefn a'i choes.

Mae'r dosbarth ymarfer corff rhad ac am ddim yn cynnwys cyfuniad o ymarferion seiclo, Pilates, cylchoedd rhedeg, ymarfer corff i gerddoriaeth, yn ogystal â chyngor ar faeth a hun ofal.

Mae Michelle Redman, 40, o Flaenafon wedi bod yn cymryd rhan yn y dosbarth yng Nghanolfan Byw Egnïol Blaenafon ers ychydig dros flwyddyn gydag Ellie, ei merch deg oed. Dywedodd Michelle:

Fe benderfynon ni roi cynnig arni gan ei fod yn rhywbeth y gallem ei wneud gyda’n gilydd, yn lleol, ac am ddim. Mae’r rhan fwyaf o fenywod yn teimlo ychydig yn bryderus wrth ddechrau dosbarth ffitrwydd ar eu pen eu hunain, ond gan fy mod yn gwybod fy mod yn gallu cael cwmni fy merch, fe wnaeth i mi deimlo mai dosbarth hamddenol ydoedd heb unrhyw farn.

“Cyn i mi ddechrau'r sesiynau, fe wnes i ddioddef tipyn gyda sciatica ond wrth i mi allu adeiladu cryfder a gwneud yr ymarfer cywir, diolch byth mae'r broblem hon wedi diflannu.”

Mae’r dosbarth yn cael ei gynnal bob dydd Mercher o 6pm tan 7pm a chafodd ei greu i annog mamau i fod yn fodelau rôl cadarnhaol i’w merched trwy ymarfer corff, tra hefyd yn eu cynorthwyo i oresgyn eu pryderon iechyd eu hunain.

Oherwydd ei boblogrwydd mae dosbarth arall wedi cychwyn yn Stadiwm Cwmbrân ar yr un pryd.

Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Torfaen sy’n trefnu’r ddwy sesiwn, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac maent yn rhan o fenter ehangach ‘Mind the Gap’ i wella iechyd a lles menywod a merched yng Ngwent.

Yn ôl adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, mae disgwyliad oes iach i fenywod a dynion yn Nhorfaen yn is na chyfartaledd Cymru.

At hynny, mae menywod yn Nhorfaen fel arfer yn mwynhau 55 mlynedd o iechyd da, tra bod y cyfartaledd i ddynion yn 61 mlynedd.

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Rydym yn falch iawn o effaith gadarnhaol y dosbarthiadau hyn ar iechyd a hapusrwydd menywod a merched yn Nhorfaen. Mae hon yn enghraifft wych o’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd yn ein hardal a grymuso’n trigolion i fod yn gyfrifol am eu lles eu hunain.

“Maent nid yn unig yn ffordd ddifyr ac effeithiol o gadw'n heini, ond yn gyfle gwych i famau a merched gryfhau eu perthynas a chefnogi’i gilydd.”

Mae’r dosbarthiadau yn agored i bob mam a merch wyth oed a hŷn yn Nhorfaen. Cânt eu hariannu gan Gyngor Tref Blaenafon a Chyngor Cymuned Cwmbrân.

I gadw lle, cysylltwch â Megan yn Nhîm Datblygu Chwaraeon Torfaen drwy e-bostio megan.parker@torfaen.gov.uk neu anfonwch neges ar dudalen Facebook #oseidiafi.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/02/2024 Nôl i’r Brig