Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
Mae pwyllgor Cabinet Torfaen wedi cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer ysgol newydd ac estyniad i Ysgol Gynradd Maendy, trwy ddyfarnu contract adeiladu gwerth £14 miliwn i Morgan Sindall.
Bydd y gwaith o adeiladu adeiladau newydd yr ysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau gofal plant a Dechrau’n Deg, yn dechrau ym mis Mawrth 2024 a disgwylir y bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau erbyn haf 2025.
Bydd disgyblion yn parhau i ddysgu yn adeiladau’r ysgol sydd yno nawr, hyd nes cwblhau’r gwaith o adeiladu’r ysgol newydd. Yna, bydd adeiladau’r hen ysgol yn cael eu dymchwel a thir yr ysgol yn cael ei dirlunio gyda dau fan chwarae, ardal ysgol y goedwig, cyfarpar chwarae a chae chwaraeon.
Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o’r rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd gan y Cyngor a dyma’r prosiect nesaf i gael ei gyflawni yn y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sef yr enw newydd ar raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd ac Addysg: “Fel y mae pawb yn gwybod, mae chwyddiant wedi ychwanegu costau sylweddol at bob prosiect adeiladu mawr, ac felly rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i ail-feddwl am y gwaith gyda’r datblygwr, er mwyn sicrhau bod y gwaith o adeiladu’r ysgol yn dal i fod o fewn y gyllideb a osodwyd gennym yn 2022.
“Bydd yr ysgol hefyd yn helpu i gyflawni dyheadau’r Cyngor o ran ynni gyda chynllun yr ysgol yn cyrraedd Carbon Sero Net, gyda charbon ymgorfforedig isel. Bydd yr ysgol yn cael ei rhedeg yn llwyr ar drydan ac yn cael ei phweru gan bympiau gwres o’r aer a phaneli ffotofoltäig ar y to.”
Cyfanswm cost yr ysgol newydd, gyda’r gwaith cyn-adeiladu a’r dylunio, yw £17,131,842 ac mae’r Cyngor yn cyfrannu £5,220,608. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’r cyllid ar gyfer £10,790,865 o’r swm sy’n weddill o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a’r £1,120,369 sydd ar ôl o’r Grant Cyfalaf Gofal Plant.
Yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt, mae’r Cyngor wedi ymrwymo bron i £130 miliwn mewn ysgolion newydd, estyniadau i ysgolion a gwaith ailwampio ysgolion, er 2015.