Dathlu gwirfoddolwyr chwarae

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024
volunteer awards

Roedd seremoni Gwobrau Gwirfoddoli’r Gwasanaeth Chwarae eleni yn gyfle i ddathlu cyfraniad mwy na 180 o wirfoddolwyr am gyfoethogi bywydau plant mewn cymunedau ar draws Torfaen.

Yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd yn Theatr y Congress yng Nghwmbrân ddydd Llun, cafodd y gwirfoddolwyr eu cydnabod am ddarparu mwy na 28,000 o oriau o gymorth chwarae yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Meredith Lloyd Tolman, 17, o Fryn Eithin, Cwmbrân, gipiodd gwobr ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ am ei hymroddiad eithriadol i helpu plant ag anghenion cymhleth i fwynhau cyfleoedd chwarae rheolaidd.

Dywedodd Meredith, sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn ystod y tymor, gwyliau ysgol, a phenwythnosau: “Ni allaf gredu fy mod wedi ennill gwirfoddolwr y flwyddyn. Rwyf wrth fy modd yn gweithio ar y penwythnosau gyda'r bobl ifanc sy’n wynebu cymaint o heriau. Rwy’n mynd i barhau i wirfoddoli gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen hyd y gallaf, a buaswn yn  argymell pawb i fanteisio ar y fath brofiad.”

Enillodd Charlotte White, 22, o Ben-y-garn, wobr aur gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen am gyrraedd dros 500 o oriau’n gwirfoddoli ers haf 2023.

Dywedodd Charlotte, a gefnogodd y Sesiynau Chwarae i’r Teulu, darpariaethau cofleidiol, clybiau ar ôl ysgol yn y gymuned, yn ogystal â gwaith ysgol: “Fe wnes fwynhau pob munud yn gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Chwarae ac rwy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y maes hwn.”

Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd tystysgrifau hefyd i holl Wirfoddolwyr yr Haf, Gwirfoddolwyr yn ystod y tymor, Prentisiaid a Hyfforddeion, yn ogystal â Rhaglen Cydnabod Gwirfoddolwyr Cynghrair Gwirfoddol Torfaen.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clarke, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Rwyf yn ymfalchïo’n fawr yng ngwaith yr holl wirfoddolwyr sydd wedi cael eu cydnabod yn y seremoni wobrwyo eleni. Mae eu hymroddiad a'u hangerdd yn galluogi llawer o ddarpariaethau chwarae i weithredu trwy gydol y flwyddyn.

“Mae prosiect gwirfoddoli gwasanaeth Chwarae Torfaen yn cynnig cyfle gwych i bobl o bob gallu a chefndir ddysgu, tyfu, a rhoi yn ôl i’w cymuned. Da iawn i bawb a gymerodd ran”

Mae'r Gwasanaeth Chwarae wrthi’n recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer yr haf. Os ydych yn 16 neu’n hŷn ac â diddordeb mewn ymuno yn yr hwyl, gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Cyngor Torfaen erbyn diwedd mis Ebrill.

I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o wirfoddoli a hyfforddiant sydd ar gael, e-bostiwch andrea.sysum@torfaen.gov.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 20/02/2024 Nôl i’r Brig