Llyfrgelloedd yn taro'r nod

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Medi 2023
Library

Mae nifer y bobl a ddefnyddiodd y llyfrgelloedd yng Ngwasanaeth Llyfrgell Torfaen yr haf hwn wedi cynyddu o gymharu â'r llynedd.

Fe wnaeth dros 19,000 o bobl ymweld ag un o’r tair llyfrgell yn y fwrdeistref ym mis Awst - 1,500 yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.

Dangosodd arolwg diweddar mai cyswllt Wi-Fi a gweithgareddau am ddim oedd ymysg y rhesymau mwyaf poblogaidd am ymweld â’r llyfrgell, ochr yn ochr â mynediad at filoedd o lyfrau!

Mae'r tîm nawr yn ystyried hyrwyddo'r ystod o wasanaethau a gynigir gan lyfrgelloedd Blaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl i gwsmeriaid o bob oed.

Fel Sarah Hurford, sydd wedi bod yn mynychu sesiynau Amser Rhigwm yn Llyfrgell Cwmbrân gyda’i meibion yn ystod y saith mlynedd diwethaf.

Meddai: “Roeddem mor ddiolchgar i dderbyn croeso cynnes; rhywle i gwrdd â rhieni eraill a mwynhau canu a chwarae.

“Fel rhiant, mae’n hynod ddefnyddiol cael gweithgaredd sy'n rhad ac am ddim ac yn sbarduno diddordeb y plant mewn straeon a llyfrau.

“Dros y blynyddoedd, daeth yn rhan fawr o fywyd Bertie a'i frawd bach Stanley. Mae gan y bechgyn atgofion melys o'r grŵp hwn, ac roedd wir yn annog cariad at y llyfrgell.” 

Mae Sarah a'i phlant hefyd wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau am ddim fel sgiliau syrcas, amser stori a sesiynau crefft.

Mae Cunitia Worthington, 96, wedi bod yn aelod o Lyfrgell Torfaen am bron i 20 mlynedd, ar ôl symud o Rhydychen ac ymgartrefu yng Nghwmbrân.

Diolch i gymorth TG gan staff y llyfrgell, mae hi wedi dysgu sut i ddefnyddio dyfais iPad a gall ddefnyddio gwasanaeth Borrowbox y llyfrgell i dderbyn e-lyfrau llafar.

Mae hi hefyd yn defnyddio Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref yn rheolaidd, ac yn derbyn dewis o lyfrau llafar sy’n cael eu danfon i’w chartref bob tair wythnos.

Meddai Cunitia: ‘Rwy'n dibynnu'n llwyr ar y gwasanaeth llyfrgell; mae’n achubiaeth ac mae e werth y byd i mi. Mae’r staff wedi fy helpu i ddysgu popeth yr oedd angen i mi ei wybod.”

Yn ddiweddar, fe wnaeth y Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad, ymuno â sesiwn Amser Rhigwm yn Llyfrgell Cwmbrân, meddai:

“Mae llyfrgelloedd Torfaen yn gonglfaen sy’n cysylltu ein cymunedau, gan greu amgylchedd cynnes sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ac un sy’n agored ac yn groesawgar i’r holl drigolion.

“Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig i weld drosof fy hun, yr amrywiaeth eang iawn o wasanaethau y mae’r llyfrgell yn eu darparu i’n cymuned. Maent yn chwarae rôl ganolog iawn o ran cyflawni nifer o’r amcanion hanfodol sydd wedi eu hamlinellu yn ein Cynllun Sirol.

“Mae hefyd yn braf clywed bod Sialens Ddarllen yr Haf eleni; Ar Eich Marciau, Darllenwch, wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto, gan ddenu dros 1000 o blant i gofrestru, sef yr ail nifer uchaf erioed.” 

Os nad ydych eisoes yn aelod o'r llyfrgell, cofiwch fod modd cofrestru yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/09/2023 Nôl i’r Brig