Datglowch eich potensial yn ystod Wythnos Addysg Oedolion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Medi 2023

I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion 2023, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen wedi cyhoeddi cyfres gyffrous o sesiynau blasu rhad ac am ddim ymhob un o’u canolfannau.

Gan ddechrau dydd Llun, gall drigolion droi eu llaw at gyrsiau celf ewinedd, yoga a TG, neu gofrestru ar gyfer cwrs achub bywyd rhad ac am ddim Adfywio’r Galon.

Nod Wythnos Addysg Oedolion yw ysbrydoli oedolion i fachu ar y cyfle i ehangu eu gwybodaeth, datblygu sgiliau newydd ac ymgysylltu â’u cymunedau.

Mae pob sesiwn blasu yn rhad ac am ddim ond cynghorir pobl i gadw’u lle ymlaen llaw oherwydd fe fydd llefydd yn gyfyngedig.

Meddai Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, Y Cynghorydd Joanne Gauden: “Ymunwch â ni'r wythnos nesaf i archwilio dewis o destunau ac i ddatblygu sgiliau newydd, a darganfod pleserau dysgu, a chwrdd â phobl sydd o’r un anian â chi ar yr un pryd.

"Efallai eich bod chi’n chwilio am ddatblygiad personol, twf proffesiynol neu brofiad difyr, gwerth chweil. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae gan ein sesiynau blasu dysgu yn y gymuned rywbeth at ddant pob un.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion ac i gadw’ch lle ar unrhyw un o’r sesiynau blasu, rhowch glic ar Gwefan Cyngor Torfaen, ffoniwch 01633 647647 neu anfonwch neges e-bost i power.station@torfaen.gov.uk

Gellir cael mynediad at gyrsiau Sgiliau Hanfodol rhad ac am ddim trwy gydol y flwyddyn academaidd gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen, ac maen nhw’n cynnwys cyrsiau Digidol, Saesneg, Mathemateg a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/09/2023 Nôl i’r Brig