Ydych chi'n ystyried addysg Gymraeg i'ch plant?

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Medi 2023
Early years children

Mae gan Gyngor Torfaen amrywiaeth o ddarpariaethau addysgol iaith Gymraeg o oedran babanod a phlant bach at ysgol uwchradd.

Yr wythnos nesaf, bydd y tîm sy’n cefnogi addysg blynyddoedd cynnar yn cynnal Digwyddiad Cymraeg yn Theatr Congress i helpu pobl i ddeall yr opsiynau sydd ar gael.

Bydd y digwyddiad am ddim ac yn digwydd rhwng 10am a 12pm ddydd Sadwrn 23 Medi ac mae’n agored i rieni â phlant hyd at 11 oed.

Bydd llawer o weithgareddau ar gael i’r teulu cyfan, gan gynnwys canu yn Gymraeg , amser stori yn Gymraeg, paentio wynebau a modelu balŵns.

Mae’r Digwyddiad Cyfrwng Cymraeg yn rhan o ymrwymiad Cyngor Torfaen i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: “Mae mwy a mwy o rieni’n gallu tystio bod dewis addysg Gymraeg i’w plant wedi bod yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil, ac yn fantais wrth ddechrau ym myd gwaith.

“Fel rhiant, bydd dewis addysg eich plentyn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch yn eu gwneud.

“Bydd ein digwyddiad Cyfrwng Cymraeg yn dod â darparwyr gofal plant cyfrwng Cymraeg, ysgolion a phartneriaid allweddol ynghyd i ymgysylltu â rhieni a rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i opsiynau addysgol cyfrwng Cymraeg a’r hyn y gall olygu i deuluoedd.”

Yn y cyfamser, gallwch gael cipolwg ar lyfryn y Cyngor, Bod yn Ddwyieithog yn Nhorfaen, a ddylai fod o gymorth i ateb rhai o’ch cwestiynau a rhoi gwybod i chi pam fod bod yn ddwyieithog yn wych - Bod yn Ddwyieithog yn Nhorfaen

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag addysg Gymraeg yn Nhorfaen, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen: Tel/Ffôn: 0800 0196330 Email/Ebost: FIS@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 14/09/2023 Nôl i’r Brig