Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 13 Medi 2023
Mae trefniadau’n mynd rhagddynt i ddathlu cyfnod yn hanes un o’r ysgolion cyfun hynaf yn Nhorfaen.
Mae cyn-ddisgyblion ac athrawon wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd i Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant ar achlysur dathlu 60 mlynedd yn hanes yr ysgol.
Cafodd yr ysgol, sydd wedi ei lleoli yn hen gartref teulu Hanbury ym Mharc Pont-y-pŵl, ei gwerthu i Chwiorydd Urdd yr Ysbryd Glân ym 1923 a'i hagor i gychwyn fel ysgol breswyl ac ysgol ddydd i ferched.
Daeth yn ysgol uwchradd fodern ym 1963, ar ôl i’r ysgol gael ei throsglwyddo i ddwylo Archesgobaeth Caerdydd i ddod yn Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant.
Ers hynny, mae’r ysgol wedi addysg degau o filoedd o ddisgyblion, gan gynnwys Lloyd Burns, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Kevin Owen, prif gyflwynydd newyddion yn y byd teledu ym Mhrydain a Menna Clatworthy – imiwnolegydd sy'n Athro Meddygaeth Drosiadol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Roedd Nick-Thomas Symonds AS, Aelod Seneddol Torfaen, hefyd yn gyn-ddisgybl ac aeth ymlaen i wasanaethu fel llywodraethwr ysgol yn 2015.
I ddathlu’r achlysur arbennig ddydd Sadwrn 23 Medi, estynnir gwahoddiad i gyn-ddisgyblion a staff fynd ar daith dywys o amgylch adeiladau a thir yr ysgol. Bydd te prynhawn yn eu disgwyl a byddant yn cael eu diddanu gan gôr yr ysgol.
Mae tair taith ar gael ar y diwrnod am dâl o £15 y pen, gyda’r holl elw’n mynd tuag at gefnogi prosiectau ysgol.
Gellir archebu lle ar wefan Ticket Source.
Dywedodd Stephen Lord, Pennaeth yr ysgol: “Rydym yn gyffrous i groesawu pawb yn ôl i helpu i ddathlu 60 mlynedd yn hanes Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant. Mae ganddi le arbennig yng nghalonnau cymaint o bobl, a gobeithiwn y byddant yn mwynhau ymweld â ni, i gwrdd â hen ffrindiau a hel atgofion.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Archesgobaeth Caerdydd a Cyngor Thorfaen, rydym wedi buddsoddi swm sylweddol o arian i wella'r ddarpariaeth addysg ar gyfer ein pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys atgyweiriadau hanfodol i'r prif dŷ, yn ogystal ag ailddatblygu ein llyfrgell. Gobeithio y bydd ein cyn-ddisgyblion a staff yn mwynhau'r diwrnod.”