Pobl ifanc yn hau hadau llwyddiant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Medi 2023
Inspire to grow

Mae grŵp o bobl ifanc wedi cael llwyddiant trwy eu gallu garddio trwy ennill gwobr amaethyddol, ar ôl cymryd rhan yng nghynllun ‘Ysbrydoli i Dyfu’ Cyngor Torfaen.

Mae ‘Ysbrydoli i Dyfu’ yn cynnig llwyfan unigryw i bobl ifanc 11 – 19 oed sydd wedi cael eu cyfeirio at y prosiect, i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain ar yr un pryd â mireinio sgiliau hanfodol i’w helpu i lwyddo mewn bywyd.

Gweithiodd y bobl ifanc i drawsnewid lleiniau awyr agored yn erddi ffrwythlon, gan dyfu cnydau fel winwns, cennin a thatws, yn ogystal â tsilis, tomatos a chiwcymbrau  - y cyfan wedi eu tyfu mewn Twneli Poly.

Talodd eu hymroddiad a’u gwaith caled ffordd wrth i’r grŵp gipio’r wobr gyntaf yn ddiweddar yn Sioe Amaethyddol Llangynidr am ei ffigys blasus.

Mae’r cynnyrch i gyd yn cael ei dyfu ar randir cymunedol ym Mhen-y-garn ac mae’n cael ei ddefnyddio i wneud siytni, cawl, caserolau a jamiau.

Cofrestrwyd Finlay Drever, xx, o xx, gyda’r prosiect dros yr haf, dywedodd:

“Rwy’n teimlo bod bod yn rhan o’r rhandir wedi helpu i hybu fy hyder a fy sgiliau cymdeithasol.  Mae’n deimlad gwych gwneud eich siytni winwns a tsili eich hun ac mae’n rhoi teimlad o lwyddiant pan fyddwch chi’n eu medi”.

Mae prosiect Ysbrydoli i Dyfu’n ystyried agor caffi bach yn fuan, a fydd yn cynnwys bwydlen a gynlluniwyd gan bawb sydd ynghlwm.  

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr yn rhaglen Ysbrydoli i Lwyddo Cyngor Torfaen, "rydym wedi cael ein synnu gan ymrwymiad diwyro a’r camau sydd wedi cael eu cymryd gan yr unigolion ifanc yma.  Roedd yn naturiol ein bod ni am arddangos ffrwyth eu llafur yn Sioe Amaethyddol Llangynidr.

“Mae’r prosiect yn helpu i fagu hyder, sgiliau bywyd ac mae’n dysgu rheoli amser i bobl ifanc ynghyd â phwysigrwydd bod yn drefnus gan ddeall ar yr un pryd y broses o fynd o’r tir i’r plât.”

Am fwy o wybodaeth am brosiect Ysbrydoli i Dyfu yn Nhorfaen, cysylltwch â Gareth Jones trwy gareth.jones4@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07976632911.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/09/2023 Nôl i’r Brig