Datganiad ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC)

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Medi 2023

Mae yna gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau ar hyn o bryd ynglŷn â Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn sefydliadau addysgol. 

Mae’r cyngor yn trin hyn fel blaenoriaeth ac mae eisoes wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o’n hadeiladau addysg er mwyn gweld safleoedd ble gall fod RAAC wedi cael ei ddefnyddio. 

Roedd RAAC yn cael ei ddefnyddio rhwng 1953 a 1992 ac felly mae yna rai ysgolion ac estyniadau i ysgolion a adeiladwyd yn ystod y cyfnod yma ble rydym wedi nodi effaith posibl. 

Mae’r cyngor wedi cyflogi syrfëwr adeiladu arbenigol i weld a yw RAAC yn bresennol yn ein hysgolion ac adeiladau eraill sydd gan y cyngor. 

Ar hyn o bryd, does dim problemau sy’n hysbys, ond mae diogelwch a lles disgyblion a staff o’r pwys mwyaf a byddwch yn cymryd y camau angenrheidiol wrth i ni dderbyn gwybodaeth gan y syrfewyr  . 

Bydd y cyngor y diweddaru’r datganiad yma os bydd datblygiadau arwyddocaol. 

17 Hydref 2023

Mae'r cyngor yn falch o gyhoeddi, yn dilyn adolygiad llawn, a gweithio gyda Syrfëwr Adeiladu Siartredig, gall gadarnhau nad oes Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth ar unrhyw un o’i safleoedd ysgol.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/10/2023 Nôl i’r Brig