Disgyblion yn dychwelyd i ysgol ar ei newydd wedd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Medi 2023
Cwmbran High canteen

Daeth dros fil o ddisgyblion yn ôl i Ysgol Uwchradd Cwmbrân ar ei newydd wedd yr wythnos hon.  

Dros yr haf, mae gwaith wedi ei wneud i wella safle’r ysgol a chafodd disgyblion deis am ddim fel rhan o wisg ysgol newydd.  

Mae’r newidiadau’n cynnwys ehangu’r ffreutur, ardal fwyta awyr agored newydd, gwefan newydd, logo newydd i’r ysgol ac arwyddair – Ymdrechu, credu, llwyddo. 

Mae hyn oll o ganlyniad i ymgysylltiad gan ddisgyblion o bob blwyddyn yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân a gyflwynodd eu hawgrymiadau a gafodd eu rhoi wedyn ar restr fer gan gynrychiolwyr blwyddyn, tîm arweinyddol y disgyblion a’r Pennaeth Matthew Sims. 

Dywedodd Mr Sims, a benodwyd ym Medi 2022: “Roedd disgyblion yn anhapus gyda hen fathodyn yr ysgol a’i hunaniaeth ac roedden nhw am gael rhywbeth ffres a  newydd, roedden nhw hefyd am i ni wella trefniadau bwyta trwy greu lle newydd.  Yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân, mae llais disgyblion yn bwysig i ni." 

Dywedodd Rhys Hughes o flwyddyn 10: “Rwy’n credu bod yr ysgol wedi gwella’i safonau ac mae’r wisg yn edrych yn smart, rwy’n falch bod yr ysgol yn gwella’r adeiladau." 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, teuluoedd ac Addysg: "Mae’n wych gweld bod y disgyblion wedi cymryd rhan yn y broses yma o’r dechrau hyd y diwedd gyda Llais Disgyblion Ysgol Uwchradd Cwmbrân.  

"Nawr maen nhw’n gallu gweld eu syniadau’n dod yn fyw gyda’r gwaith adnewyddu yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân."  

Ewch i wefan Ysgol Uwchradd Cwmbrân

Diwygiwyd Diwethaf: 08/09/2023 Nôl i’r Brig