Canolfan yn rhoi dysgwyr Cymraeg ar ben ffordd.

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Hydref 2023
Leo - Carreg Lam (Edited)

Ers agor ei drysau’n gynharach eleni, mae canolfan drochi Cymraeg Torfaen wedi gweld 18 o ddisgyblion yn cael cefnogaeth i ddysgu Cymraeg er mwyn pontio o addysg Saesneg i addysg Gymraeg yn y brif ffrwd.

Agorodd Carreg Lam yn Ebrill ac mae’n helpu dysgwyr 7 i 11 oed sydd am fynd i addysg Gymraeg yn nes ymlaen.  

Roedd Leo, naw oedd, yn rhan o’r fintai gyntaf yn nhymor yr haf, 2023, ac mae e nawr wedi pontio i ddosbarthiadau Cymraeg prif ffrwd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Ar ôl y rhaglen 12 wythnos, mae Leo nawr yn cael ei gefnogi am 12 wythnos gan staff Carreg Lam ar y cyd â staff yr ysgol, i’w helpu i barhau i roi hwb i’w hyder.

Dywedodd Mr Price, athro Leo: “Cyn dechrau gyda Charreg Lam, roedd Leo’n brin o hyder a doedd e ddim yn teimlo’n gyfforddus â’r Gymraeg.  Ar ôl rhai wythnosau, fel welais i newid sylweddol: roedd hyder Leo wedi tyfu.

“Roedd yn fodlon dod ataf i a thrafod yr hyn yr oedd wedi gwneud y diwrnod hwnnw a siarad ynglŷn â’r hyn yr oedd am wneud y diwrnod nesaf a thros y penwythnos i amsugno’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae Leo wedi setlo’n wych yn y dosbarth ac mae e wedi ei integreiddio’n llwyr.”

Dywedodd mam Leo, Melissa: “Roedd Leo’n swil iawn o’r blaen, ond mae e nawr yn teimlo’n hyderus yn yr ysgol ac yn gymdeithasol y tu allan i’r ysgol.  Mae’n awyddus ac yn fodlon darllen yn Gymraeg gyda fi hefyd.  Mae Leo wedi fy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg ac fe fydda’ i’n dechrau fy nghwrs yr wythnos nesaf.”

Mae’r canolfan nawr am gadw lle i’r fintai nesaf o ddisgyblion a fydd yn dechrau fis Rhagfyr.

I wneud cais, neu i gael mwy o wybodaeth am addysg Gymraeg gyda Charreg Lam, ewch i: www.carreg-lam.com neu cysylltwch â carreg-lam@torfaen.gov.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2023 Nôl i’r Brig