Cyhoeddi enillwyr Her Darllen yr Haf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Hydref 2023
library photo

Mae Llyfrgelloedd Torfaen wedi cyhoeddi enillwyr Her Darllen yr Haf ‘Ar eich Marciau, Darllenwch!', a welodd dros 1000 o blant yn cymryd rhan yr haf yma.

Gwahoddodd llyfrgelloedd blant 4-11 oed i blymio i fyd llyfrau, trwy ddarllen chwech neu fwy o lyfrau o’u dewis dros wyliau’r haf. 

Cafodd enillydd eleni, Lily Williams, sy’n 10 oed, daleb gwerth £100 ar gyfer siop deganau Smyths ar ôl i’w henw gael ei ddewis ar hap o blith restr o 400 o blant a gwblhaodd yr her.

Cyflwynwyd y daleb i Lily, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon, ynghyd â thystysgrif a medal o flaen yr ysgol gyfan.

Enillodd Finlay Stephens, sy’n ddwy oed, yr her fach cyntaf erioed, gan dderbyn sach o lyfrau ac offerynnau cerdd yn ystod ymweliad â Llyfrgell Cwmbrân.

Mae Her Darllen yr Haf, dan ofal The Reading Agency, ar y cyd â llyfrgelloedd ac Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, nid yn unig yn annog plant i chwilota mewn llyfrau, ond mae hefyd yn datblygu cariad oes at ddarllen.

I gyd-fynd â’r Her, a ddechreuodd yng Ngorffennaf, bu Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnal nifer o sesiynau stori a chân, crefftau, gweithgareddau a chlybiau Lego, gan greu awyrgylch bywiog ar gyfer darllen.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraeth Gorfforaethol a Pherfformiad: "Roedd staff yn ein llyfrgelloedd wrth eu bodd gyda nifer y plant a wynebodd yr her eleni, gyda mwy nag erioed o’r blaen yn cymryd rhan.

Llongyfarchiadau i Lily a Finlay am ennill her eleni, mae eu cariad at ddarllen yn ysbrydoledig.  Maen nhw’n gosod esiampl wych i ddarllenwyr ifanc eraill yn ein cymuned."

Am fwy o wybodaeth am Lyfrgelloedd Torfaen a digwyddiadau sydd ar y gweill, cysylltwch â: Llyfrgelloedd Torfaen trwy 01633 647676 neu ewch i dudalen Facebook Llyfrgelloedd Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2023 Nôl i’r Brig