Ysgol yn Nhorfaen yn derbyn adroddiad clodwiw.

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym Mhont-y-pŵl wedi derbyn adroddiad eithriadol gan arolygwyr Estyn yr wythnos yma.

Aeth arolygwyr i Ysgol Panteg ym Medi a chawson nhw fod yr ysgol yn “gymuned dysgu gynhwysol ac amrywiol”, gan bwysleisio fod disgyblion yn gallu “datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn gadarn”.

Soniodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ddoe, am y systemau gwydn sy’n bod i gefnogi cynnydd addysgol plant, eu lles a’u hanghenion ychwanegol.

Cafodd yr ysgol glod am werthoedd ‘Pedwar Panteg’, sy’n ymrwymo i fod “yn garedig, yn deuluol cyd-gefnogol, yn angerddol ac uchelgeisiol”, ac sy’n cael eu hymwreiddio yn holl weithgareddau’r ysgol.

Rhoddodd yr adroddiad glod i staff hefyd am ddarparu amrediad eang o gefnogaeth fwriadus er mwyn diwallu anghenion disgyblion.

Dywedodd: "Mae’r staff yn cydweithio’n hynod o effeithiol er mwyn diwallu anghenion y disgyblion. Maent yn fodelau iaith da ac yn annog y disgyblion i fod yn falch o’u Cymreictod.”

“Mae’r staff yn creu amgylchedd dysgu eithriadol o gynnes a diogel lle mae’r disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.”

Dywedodd y Pennaeth, Matthew Williamson-Dicken: “Rydym wedi bod mor awyddus i rannu’n adroddiad yma oherwydd pob dim sydd ganddo i’w ddweud am Ysgol Panteg.  Fel Pennaeth yr Ysgol, ryw’n hynod o falch o bob unigolyn yn ein teulu – plant, aelodau teuluoedd a’r staff.

“Mae adroddiad cynhwysfawr Estyn yn dangos penllanw ymdrechion ar y cyd gan addysgwyr ymroddedig, plant brwdfrydig a theuluoedd cefnogol, gan amlygu’r nodweddion eithriadol sy’n diffinio’n hysgol.

Rhoddodd arolygwyr ganmoliaeth i ymdrechion Teulu Panteg wrth greu amgylchedd sy’n dathlu gwahaniaethau rhwng unigolion, gan feithrin synnwyr o berthyn i bob plentyn - mae hyn yn rhywbeth yr ydym mor angerddol yn ei gylch ac mae’n sylfaen i bob dim yr ydym yn gwneud, felly rydym ni mor falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod hyn yn eu hadroddiad.”

Gwnaeth yr arolygwyr ddau argymhelliad:  

- Darparu cyfleoedd cyson i ddisgyblion gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol.

- Sicrhau lefel briodol o her i gefnogi’r disgyblion i ymestyn eu medrau hyd eithaf eu gallu.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rydw i wrth fy modd o fedru llongyfarch ar eu hadroddiad rhagorol gan Estyn. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad y pennaeth, y staff, y disgyblion a’r rheini sydd wedi creu amgylchedd dysgu bywiog a meithringar.

“Mae gwerthoedd ‘Pedwar Panteg’ yn ysbrydoledig ac yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ragoriaeth, caredigrwydd a hunaniaeth Gymreig. Mae’r ysgol yn enghraifft o ansawdd uchel addysg gyfrwng Cymraeg yn Nhorfaen ac rwy’n falch iawn o’u llwyddiant.”

Bydd yr ysgol yn sefydlu cynllun nawr i fynd i’r afael ag argymhellion Estyn.       

Mae copi llawn o’r adroddiad ar gael ar wefan Estyn: Ysgol Panteg | Estyn (llyw.cymru)

Gall teuluoedd sy’n ystyried newid addysg eu plant at addysg gyfrwng Cymraeg ddysgu mwy trwy ymweld â gwefan Carreg Lam.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023 Nôl i’r Brig