Profiadau nam ar y clyw yn cael eu harddangos

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Tachwedd 2023
CHS Mural NEW

Mae murlun a ddyluniwyd gan ddisgyblion yn uned nam ar y clyw Ysgol Uwchradd Cwmbrân wedi cael ei ddadorchuddio yn yr ysgol.

Crëwyd y murlun, sy'n dangos delwedd o ferch mewn swigen, gan ddisgyblion Blwyddyn 9 Rosie Thomas, Gabby Hodge-Sinclair a Myah Jones.

Cawsant eu hysbrydoli gan brosiect Ysbrydoli Cyngor Torfaen, sy'n anelu at feithrin a datblygu pobl ifanc trwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau i’w helpu i ddysgu sgiliau newydd. 

Gweithiodd Yasmin Long a Huw Watkins, o Ysbrydoli Torfaen, gyda’r disgyblion i gael ysbrydoliaeth gan artistiaid byddar, yn cynnwys Nancy Rourke.

Dywedodd Gabby: “Fy syniad i oedd creu merch drist, unig yn y swigen, sy’n teimlo nad yw hi’n cael ei chynnwys, am fy mod i weithiau’n teimlo fy mod yn cael fy ngadael allan ac nad wyf yn cael fy nerbyn ymhlith myfyrwyr eraill mewn ysgol brif ffrwd. Mae'r murlun yn cynrychioli’r ddwy ochr o fyddardod, gan fod merch mewn swigen sy'n ei chael hi'n anodd, ond mae ochr fwy disglair yn llawn lliw, gydag agwedd gadarnhaol.”

Meddai Rosie: “Fi gafodd y syniad o ysgrifennu’r geiriau ‘be kind’ a chreu’r blodau yn y murlun. Dysgais sut i fynegi fy nheimladau mewn ffordd greadigol, a gobeithiaf y bydd hyn yn lledaenu agwedd gadarnhaol drwy’r ysgol.”

Ychwanegodd Myah: “Roeddwn wrth fy modd yn cael rhyddid creadigol wrth baentio, fy syniad i oedd tynnu llun y teclyn cochlea ar y ferch yn y swigen, ac fe wnes fwynhau gweithio gyda ffrindiau a dysgu am artistiaid byddar.”

Gellir dod o hyd i'r murlun y tu allan i'r ganolfan adnoddau i’r Byddar, gyferbyn â ffreutur yr ysgol. Defnyddiwyd paent emwlsiwn lliwgar i greu’r murlun sydd tua 2.5m x 3.5m o ran maint. Aeth y prosiect ymlaen am 6 wythnos.

Meddai Yasmin Long, Swyddog Ymgysylltu Celf ar gyfer Pobl Ifanc: “Cefais fy syfrdanu gan ba mor gadarnhaol a charedig oedd y disgyblion wrth iddynt gerdded heibio'r murlun pan oeddwn yn paentio, roedd gan bron pawb eiriau gwych o anogaeth a chanmoliaeth am ein gwaith."

Ychwanegodd Matthew Sims, Pennaeth: “Yma yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân rydym yn gwerthfawrogi llais y disgybl, a dyna pam mae ein myfyrwyr sydd nam ar y clyw yn destun balchder i mi, am eu bod yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth, lledaenu agwedd gadarnhaol a chyfleu anabledd mewn ffordd ddifyr a lliwgar.”

Diwygiwyd Diwethaf: 17/11/2023 Nôl i’r Brig