Dathlu pobl ifanc mewn gofal

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 2 Tachwedd 2023
TYPSS conference

Mae cynhadledd wedi ei chynnal i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc sydd wedi cael profiad o’r system gofal yn Nhorfaen.

Cynhaliwyd y digwyddiad i nodi diwedd Wythnos y Rhai sy’n Gadael Gofal, oedd hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu plant mewn gofal a’r rheiny sy’n gadael gofal, a sut allan nhw gofleidio newid.

Yn Nhorfaen, mae’r rheiny sydd mewn gofal 16 i 18 oed a’r rheiny sy’n gadael gofal hyd at 25 oed yn cael cymorth Gwasanaeth Cymorth Pobl Ifanc Torfaen (TYPSS). 

Ar ddydd Mercher, daeth 30 o bobl ifanc a gafodd gymorth TYPSS ynghyd ym Mharth Dysgu Torfaen, yng Nghwmbrân, i rannu eu profiadau a sut maen nhw wedi cael cymorth.    

Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhagflas o ffilm gan un sydd wedi gadael gofal, Charlie Grayson, sy’n ceisio rhoi llais i bobl ifanc mewn gofal. Gwyliwch We are Not Lost.

Dywedodd Charlie, sy’n astudio ar gyfer gradd Meistr mewn ffilm: “Fel myfyriwr mewn ffilm, roedd angen llawer o offer arnaf i dros y blynyddoedd, a doeddwn i ddim yn gallu fforddio hyn fy hun.

"Gwnes i ddau gais trwy TYPSS ac roeddwn i’n llwyddiannus, ac mae hyn wedi arwain at fy mod yn creu fy ffilm gyda’r enw ‘We Are Not Lost’ i TYPSS."

Dywedodd Kaci, a gymerodd rhan yn y gynhadledd hefyd: “Mae TYPSS wedi fy nghefnogi o 16 oed ymlaen ac maen nhw’n parhau i wneud. Maen nhw’n gwneud hyn yn arbennig gydag iechyd meddwl, tai a phob dim y gallan nhw i fy helpu i lwyddo.”

Dywedodd Kate Phillips, rheolwr TYPSS: "Mae’r digwyddiad yma’n ymwneud â dathlu’r bobl ifanc yma a rhoi synnwyr o berthyn iddyn nhw ac, yn bwysig, llais.

"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill fel Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen i’w helpu i fod yn annibynnol.  Rydym yn gwneud hynny trwy ddod i’w hadnabod a rhoi iddyn nhw’r gefnogaeth y mae ei hangen arnyn nhw ac sy’n unigol iddyn nhw. 

"Eleni, rydym wedi gweld y nifer fwyaf o bobl erioed yn cymryd rhan yn y digwyddiad, diolch i’r perthnasau cadarnhaol y maen nhw wedi eu datblygu gyda’n staff a gyda’i gilydd."

Dywedodd Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Torfaen dros Blant a Theuluoedd:  “Roedd yn dda cael cynnal digwyddiad o’r math yma, sy’n cydnabod llais pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gweld cyfraniad pobl ifanc trwy gydol y diwrnod.

“Roedd yn dda hefyd gallu gweld a chydnabod gwaith caled tîm TYPSS ac asiantaethau partner wrth iddyn nhw herio anghydraddoldebau i alluogi ein pobl ifanc i lwyddo a ffynnu. Mae’n hanfodol fod pobl ifanc yn ein helpu i lunio gwasanaethau ac rwy’n edrych ymlaen at fwy o gyfranogiad ac ymgysylltiad.”

Mae TYPSS yn gweithio gyda rhyw 200 o bobl ifanc, rhwng 16 a 25 oed, gan gynnwys pobl sy’n gadael gofal, pobl ifanc digartref a phobl ifanc sydd ddim mewn addysg na gwaith. 

Llun: Kate Phillips; Matthew Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen; Charlie Grayson; Stephen Vickers, Prif Weithredwr Cyngor Torfaen; Jason O'Brien, Kaci, Hollie and Aaron. 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/11/2023 Nôl i’r Brig