Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Mai 2023
Mae cynllun i adeiladu cae chwarae pob tywydd cymunedol newydd gyda llifoleuadau ar gyfer gogledd y fwrdeistref wedi derbyn y golau gwyrdd.
Bydd cynllun y prosiect am gae chwarae pob tywydd cymunedol newydd gyda llifoleuadau yn Ysgol Gyfun Abersychan yn cael ei ddangos i gynghorwyr am y tro cyntaf yr wythnos nesaf. Bydd y cynllun hefyd yn gweld uwchraddio cyrtiau tenis a phêl-rwyd gydag ail wynebu’r llain chwarae.
Roedd y cyngor eisoes wedi rhoi £59,635 o’r gronfa adfer ar ôl Covid yn 2021 ar gyfer astudiaeth dichonoldeb ar ddatblygu cae chwarae pob tywydd cymunedol newydd gyda llifoleuadau ar safle ysgol Abersychan.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: “Gwnes ymrwymiad cyn yr etholiad diwethaf y byddem ni’n bwrw ymlaen â maes 3G newydd yng ngogledd y fwrdeistref i annog mwy o bobl i fod yn weithgar ac i helpu i wella iechyd pobl yng ngogledd Torfaen.
“Gyda’r Gronfa Ffyniant Cyffredin nawr wedi ei chytuno gan Lywodraeth y DU, rydw i wedi gofyn i’r tîm fwrw ymlaen â’r prosiect cyffrous yma. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith a ddigwyddodd llynedd a bydd yn helpu i ddatblygu’r prosiect yma’n gyflym. Sefydlwyd y gronfa adfer i helpu ymateb y cyngor i amrywiaeth o effeithiau negyddol ar gymunedau o ganlyniad i’r pandemig a bydd y cynllun yma’n dod â buddiannau mawr o ran iechyd.
“Fel rhywun sy’n gwirfoddoli fel hyfforddwr pêl-droed, rwy’n gwybod bod gemau’n cael eu gohirio’n aml oherwydd tywydd gwael, felly bydd y maes 3G newydd yn rhoi mwy o gyfle i’r ysgol â’r gymuned chwarae trwy gydol y flwyddyn, 7 diwrnod yr wythnos ac yn ystod yr hwyr ym mhob tywydd.”
Bydd y maes newydd yn Abersychan yn addas ar gyfer pêl-droed a rygbi cystadleuol a bydd yn cynnwys lloches, llifoleuadau a chyfleusterau newid gwell.
Mae’r cyngor nawr wedi clustnodi £2.3 miliwn o arian gan y Gronfa Ffyniant Cyffredin ar gyfer y prosiect yma a disgwylir i waith ddechrau yn ystod gwyliau’r haf yn 2024 ac i bara 26 wythnos.
Mae’r maes 3G yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn cyfleusterau chwaraeon yn y fwrdeistref gyda dechrau gosod meysydd 3G eleni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhrefddyn ac ar hen gaeau’r ysgol yn Llantarnam. Mae rhaglen o waith ar wahân hefyd ar ddechrau i adnewyddu nifer o gyfleusterau chwaraeon presennol yn ysgolion Torfaen.
Mae cynghorwyr sy’n cynrychioli cymunedau yng ngogledd y fwrdeistref wedi cael eu gwahodd i sesiwn friffio ar 30ain Mai am 10am yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl i ystyried amlinelliad o’r prosiect, ei fuddion ac amserlenni.