Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Mai 2023
Pupils playing with equipment at Techniquest
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yn anelu at gyrraedd presenoldeb o 95 y cant unwaith eto.
Cyn y pandemig, roedd yr ysgol yn cofnodi presenoldeb o 95 y cant yn rheolaidd ar draws pob un o’r 11 dosbarth. Ond ers hynny, mae’r cyfartaledd o ran presenoldeb bellach tua 92 y cant.
Meddai’r Pennaeth, Laura Perrett: "Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol i addysg disgyblion ac roedden ni’n falch iawn o’n cyfradd bresenoldeb cyn y pandemig.
"Ers hynny, mae’r presenoldeb cyfartalog wedi lleihau ond rydyn ni’n gweithio gyda chymuned yr ysgol, gan gynnwys disgyblion, rhieni a llywodraethwyr, i fynd yn ôl at y man ble’r oedden ni, ac i gefnogi plant a theuluoedd pan fo angen."
Un ffordd y mae’r ysgol yn hyrwyddo presenoldeb da yw cynnal gornest yn ystod y gwasanaeth bob dydd Gwener, pan fyddan nhw’n llongyfarch cyfraddau presenoldeb da dosbarthiadau yn ystod yr wythnos honno neu’n cydymdeimlo â chyfraddau gwael.
Mae’r ysgol hefyd wedi ailddechrau cynnal teithiau ysgol, ac yn ddiweddar aeth y disgyblion i Techniquest yng Nghaerdydd fel rhan o’u thema I’r Anfeidrol A Thu Hwnt, ac i Rest Bay ym Mhorthcawl.
Meddai Marnie: "Rydw i wrth fy modd yn cael mynd ar daith i lefydd newydd gyda fy ffrindiau yn y dosbarth. Roeddwn i wrth fy modd â’r holl offer gwych ac roedden nhw wedi dysgu llawer i ni am wyddoniaeth."
Meddai Dylan: "Y peth gorau am y daith oedd cael cinio ar y traeth ac adeiladu cestyll tywod."
Yr wythnos nesaf, fe fydd disgyblion yn dathlu Wythnos Cerdded i’r Ysgol diolch i lwybr troed a llwybr beicio newydd o Court Farm Road.
Yn ogystal â chreu llwybr 180-metr, diolch i arian Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a nawdd Llwybrau Mwy Diogel, mae Cyngor Torfaen hefyd wedi gosod storfa ar gyfer beiciau a sgwteri er mwyn annog mwy o ddisgyblion i deithio i’r ysgol mewn ffordd lesol.
Gallwch ddarganfod mwy am resymau eraill y disgyblion dros fwynhau mynychu Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam trwy wylio eu fideo #DdimMewnColliMas ar Twitter.