Wedi ei bostio ar Dydd Llun 8 Mai 2023
Mae ysgol uwchradd yn Nhorfaen wedi lansio menter newydd sy’n gwobrwyo presenoldeb da mewn ymdrech i leihau absenoldebau anawdurdodedig.
Cyflwynodd Ysgol Abersychan fenter Her 21 er mwyn cydnabod disgyblion sy’n mynd i’r ysgol bob dydd am fis – neu 21 diwrnod.
Ers cyflwyno’r fenter, mae mwy na 380 o ddisgyblion wedi ennill gwobrau gan gynnwys rholiau bacwn a phitsa am ddim amser egwyl neu amser cinio, tocynnau ar gyfer y sinema a thaith i sglefrolio.
Ymhlith y rheiny fu’n cymryd rhan, mae Olivia, disgybl o flwyddyn 8, sydd wedi gwella’i phresenoldeb 14 y cant. Meddai: “Roedd gwybod bod yr her ar waith yn gyfle i fi osod nod personol i fi fy hun, i fod yn yr ysgol bob dydd, er mwyn ennill y wobr a chyflawni’r her”.
Meddai Mason, disgybl o flwyddyn 10 sydd wedi gwella’i bresenoldeb 9.9 y cant: “Bonws ychwanegol oedd cael fy ngwobrwyo am fod yn yr ysgol bob dydd, yn enwedig cael mynd i sglefrolio”.
Law yn llaw â menter Her 21 mae’r ysgol hefyd yn cynnal cylchoedd presenoldeb. Yn y cylchoedd presenoldeb, mae disgyblion y mae eu presenoldeb rhwng 80 a 90 y cant, yn dod at ei gilydd i drafod eu habsenoldebau, ac i osod nod ar yr un pryd i gynnal eu presenoldeb neu ei wella yn y dyfodol.
Yn ystod pandemig Covid, gwelwyd cyfraddau presenoldeb ysgolion yn Nhorfaen y gostwng ac erbyn hyn mae gan y fwrdeistref un o’r cyfraddau presenoldeb cyfartalog isaf yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd, lansiodd Cyngor Torfaen ei ymgyrch #DdimMewnColliMas er mwyn dathlu buddion mynd i’r ysgol a lleihau nifer yr absenoldebau anawdurdodedig.
Cofnodir absenoldebau anawdurdodedig pan fydd disgybl yn absennol heb esboniad neu lle nad yw’r ysgol yn teimlo bod y rheswm a roddwyd yn rheswm derbyniol dros fod yn absennol o’r ysgol.
Meddai Phil Collins, Pennaeth Ysgol Abersychan: “Edrychwn ymlaen at barhau i redeg Her 21 yn unol ag ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen, yn y gobaith y byddwn yn parhau i weld gwelliant sylweddol ym mhresenoldeb pob disgybl ym mhob grŵp oedran.
“Hyd yn hyn, yn ganlyniad i’r heriau hyn, rydyn ni wedi gweld disgyblion yn cynnal canran eu presenoldeb neu’n ei gwella.”
Os na fydd plentyn yn gallu mynd i’r ysgol, dylai rhieni neu ofalwyr gysylltu i ddweud eu bod yn absennol cyn gynted â phosibl. Dylai rhieni a gofalwyr sicrhau hefyd fod gan ysgolion eu manylion cyswllt cywir.
Os yw plentyn yn ei chael yn anodd mynd i’r ysgol yn rheolaidd, dylai rhieni a gofalwyr siarad â’u hysgol neu gysylltu â thîm Lles Addysg y Cyngor ar 01495 766965.