Disgyblion yn rhoi tro ar brydiau'n seiliedig ar blanhigion

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 3 Mai 2023
YGG plant based meals

Mae disgyblion yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi rhoi tro a brydiau newydd yn seiliedig ar blanhigion.

Mae’r bwydlenni newydd yn rhan o gynllun gan Wasanaeth Arlwyo Ysgolion Cyngor Torfaen i lansio Map Prydiau Ysgol Cynaliadwy newydd, a fydd yn cynyddu’r amrywiaeth o brydiau iach sydd ag ôl-troed carbon is.

Trefnodd disgyblion chweched dosbarth yr ysgol dri diwrnod blasu i ddisgyblion.

Roedd yr opsiynau’n cynnwys pastai datws stwmp gyda 100% briwfwyd blawd pys a phasta pob gyda 50/50 briwfwyd blawd pys a briwgig eidion. 

Rhoddodd disgyblion blwyddyn 7, Mali Cameron a Gryffudd Pook dro ar y prydiau. Dywedodd Mali: “Roedd y bastai’n faethlon ac yn flasus, ac yn cynnig cyfuniad o flas.“

Ychwanegodd Gryffudd: “Roedd y pasta pob yn gyfuniad o deimladau gwych.  Doedd e ddim yn blasu’n wahanol o gwbl; doeddwn i ddim yn sylweddoli mai pryd yn seiliedig ar lysiau oedd e.”

Mae’n hysbys bod rhoi dewis amgen ar sail planhigion yn lle cig eidion yn lleihau allyriadau carbon yn y pryd cymaint â saith gwaith yn fwy.

Mae pob pryd yn seiliedig ar blanhigion yn ddi-glwten, yn figanaidd ac wedi ei wneud â chynhwysion o Brydain.

Bydd leihau ôl-troed carbon prydiau ysgol yn cyfrannu at gynllun Cyngor Torfaen i fod yn sero carbon net erbyn 2030.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Mark Jones: “Roedd adborth gan y disgyblion yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda’r mwyafrif â’r dewis 50/50 yn well ganddyn nhw a’r rhan fwyaf yn dweud y bydden nhw’n ei fwyta eto.

“Mae gyda ni ddau bryd arall i roi tro arnyn nhw a fydd yn cynnwys cynhyrchion Quorn a phrydiau o Devil’s Kitchen yn Abertawe.”

Bydd adborth gan y disgyblion yn cael ei ddanfon at y tîm arlwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r adolygiad o opsiynau cynaliadwy ar y fwydlen.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/05/2023 Nôl i’r Brig