Erlyn perchennog siop fwyd tecawê am gig yn pydru

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Mawrth 2023

Cafodd siop fwyd tecawê ym Mhont-y-pŵl ei chau ar ôl i Swyddogion Iechyd Amgylcheddol ymateb i adroddiadau bod generadur petrol yn cael ei ddefnyddio oherwydd bod trydan yn yr adeilad wedi ei ddiffodd.    

Cafodd swyddogion hyd i fwyd yn pydru yn yr oergelloedd a’r rhewgelloedd pan aethon nhw i siop Happy Wok ar Osborne Road, yng Ngorffennaf 2021.

Sefydlon nhw fod y generadur yn cael ei ddifodd dros nos, fel nad oedd y sŵn yn tarfu ar gymdogion, ac arweiniodd hynny at fod bwyd, gan gynnwys cyw iâr, cig eidion a chorgimychiaid, yn cael ei gadw mewn tymheredd anniogel.  

Yn Llys Ynadon Caerdydd ar ddydd Gwener 3 Mawrth 2023, cafodd Xianlan Cao, Cyfarwyddwr HW Gwent Limited, ei dedfrydu ar ôl ei chael yn euog o dri chyhuddiad hylendid bwyd mewn achos blaenorol.

Cafodd Orchymyn Cymunedol am 12 mis gyda gofyniad iddi wneud 100 awr o waith heb dâl. Cafodd ei gorchymyn hefyd i dalu £2000 tuag at gostau Cyngor Torfaen, ynghyd â gordal dioddefwyr o £95.

Ni agorodd y Happy Wok eto ac mae busnes arall, nad yw’n gysylltiedig â Ms. Cao, wedi symud i mewn ers hynny. 

Dywedodd Daniel Morelli, Pennaeth ar Diogelu’r Cyhoedd: "Roedd y busnes yma’n rhoi cwsmeriaid mewn perygl difrifol o fod yn sâl trwy fwyd anniogel.

"Ymatebodd ein Swyddogion Iechyd Amgylcheddol yn gyflym gan gymryd camau’n syth i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 

"Mae dedfryd y Llys yn dangos pa mor ddifrifol oedd y cyhuddiadau, a buaswn yn annog  busnesau bwyd newydd neu gyfredol yn Nhorfaen, sydd ag unrhyw ymholiadau am ddiogelwch bwyd, i gysylltu â’r cyngor."

Gall busnesau gysylltu â Chyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu drwy businessdirect@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 10/03/2023 Nôl i’r Brig