Swyddog newydd, dynodedig ar gyfer atal sbwriel a thipio anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 6 Mawrth 2023

Mae swyddog newydd, dynodedig wedi ei gyflogi gan Gyngor Torfaen i helpu i leihau sbwriel a thipio anghyfreithlon yn y fwrdeistref.

Bydd y swyddog newydd yn gweithio'n agos gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a siopau bwyd ar glud i ddatblygu prosiectau sy'n lleihau maint y sbwriel ar y strydoedd ac mewn mannau prydferth.  

Mae'r swydd newydd yn un o gyfres o fesurau i geisio mynd i'r afael â'r broblem. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys camerâu symudol a fydd yn cael eu defnyddio'n gudd mewn mannau sy’n dueddol o gael problemau, uned gorfodi newydd a pharthau heb sbwriel.  

Bydd y swyroddiad o'r gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o strategaeth sbwriel a thipio anghyfreithlon y cyngor yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach yn ystod cyfarfod ddydd Iau 9 Mawrth. I wylio’r cyfarfod ar ffurf gwe ddarllediad cofrestrwch yma

Os hoffech chi gynnig sylwadau am yr adroddiad, anfonwch e-bost i scrutiny@torfaen.gov.uk erbyn dydd Mercher 8 Mawrth.

Dywedodd Oliver James, swyddog atal sbwriel a thipio anghyfreithlon: “Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am yr amgylchedd ers pan oeddwn yn ifanc. Mae gennyf radd Sŵoleg, ac rwyf wedi gwneud nifer o swyddi sy’n gysylltiedig â bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

“Byddaf yn gwneud fy ngorau i wella glendid y fwrdeistref drwy addysgu pobl iau, a thrwy newid ymddygiad ac agweddau pobl tuag at sbwriel a thipio anghyfreithlon. Hoffwn helpu i sicrhau bod Torfaen yn lle glân, taclus a diogel i bobl fwynhau am flynyddoedd i ddod’”.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'n newyddion gwych bod gennym ni bellach swyddog ymroddedig. Ei brif bwrpas, yw gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu polisïau a gweithredoedd sy'n atal a chael gwared ar sbwriel a thipio anghyfreithlon.

“Mae hyn yn dangos pa mor benderfynol ydym ni fel Cyngor i wneud Torfaen yn lle glanach a gwyrddach i’w fwynhau, i weithio yno ac i ymweld ag ef.

“Mae’r camau a gymerwyd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i leihau sbwriel a thipio anghyfreithlon wedi bod yn galonogol, ond mae cymaint mwy i’w wneud.”

Mae'r prosiect yn cyfrannu at amcanion llesiant y cyngor i wneud Torfaen yn fwy cynaliadwy drwy gysylltu pobl a chymunedau, ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur drwy wneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol. Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y Cyngor yma.

I gael gwybod mwy am gynnydd y strategaeth sbwriel a thipio anghyfreithlon darllenwch yr adroddiad yma.

Os hoffech chi wybod mwy am godi sbwriel yn y fwrdeistref, anfonwch e-bost at oliver.james@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 06/03/2023 Nôl i’r Brig