Diwrnod Agored Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Mehefin 2023
career day

Ydych chi’n ystyried dechrau gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu addysg? 

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn cynnal dau ddiwrnod agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn cyrsiau: 

  • Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 2 a 3 Cynorthwyydd Addysgu
  • Lefel 2 a 3 Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu.

Cynhelir y sesiynau galw-heibio ddydd Iau 6 Gorffennaf yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl, rhwng 1pm a 4pm, ac yn y Pwerdy, Sain Derfel, rhwng 5:30pm a 7:30pm.

Mae yna bosibilrwydd y bydd cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn, ond mae hynny’n amodol ar feini prawf cymhwystra.

Mae cyrsiau Sgiliau Hanfodol ar gael i ddysgwyr sy’n dymuno meithrin eu sgiliau Saesneg a Mathemateg a’u Sgiliau Digidol. 

Yn ogystal, cynigir cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i’r rheiny sy’n dymuno gwella’u sgiliau iaith Saesneg.

Meddai Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, Y Cynghorydd Joanne Gauden: “Dyma’r cyfle perffaith i unrhyw un sy’n ystyried dechrau ar eu haddysg a’u gyrfa neu hyrwyddo’u cyfleoedd.

“Ar y diwrnod, bydd cyfle i chi archwilio’r dewis o gyrsiau sydd ar gael gennym, edrych ar y cyfleusterau a siarad â’r tîm – a chewch yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i’ch helpu i wneud y penderfyniad iawn am eich dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am opsiynau gyrfa a chyrsiau, ffoniwch Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen ar 01633 647647 neu anfonwch neges e-bost i power.station@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 29/06/2023 Nôl i’r Brig