Gwobr yn rhodd i Baralympiad

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023

Mae pennaeth gwasanaeth sy’n cefnogi plant â nam ar eu golwg gyda’u haddysg ar draws ardal Gwent, wedi ennill gwobr genedlaethol. 

Sarah Hughes sy’n arwain Gwasanaeth Nam ar y Golwg SenCom ac mae wedi bod yn rhan o’r gwaith o weithredu cwricwlwm newydd i gynorthwyo plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg i baratoi at eu bywydau fel oedolion.    

Yr wythnos ddiwethaf, cyflwynwyd y wobr am arweinyddiaeth wrth hyrwyddo addysg i rai â nam ar eu golwg, i Sarah yng ngwobrau Cymdeithas Broffesiynol y Deyrnas Unedig i Weithlu Addysg y Rhai â Nam ar eu Golwg, yn Birmingham.

Yn ogystal â’r wobr, cyflwynwyd i Sarah lun swyddogol o’r beiciwr Paralympaidd James Ball, o Bonthir, sydd wedi cystadlu yn y Gêmau Paralympaidd a Gêmau’r Gymanwlad ac sydd wedi elwa ar gymorth gan wasanaeth SenCom, sef Gwasanaeth Nam ar y Golwg Gwent gynt.  

Ers hynny, mae Sarah, sydd hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas Addysgwyr Nam ar y Golwg Cymru, wedi rhoi’r llun o James yn ennill y fedal aur i Gymru yng Ngemau’r Gymanlwad yn 2022, yn rhodd i James a’i rieni.

Dywedodd: "Mae James yn athletwr hynod o lwyddiannus sydd â nam ar ei olwg ac sydd wedi cael cefnogaeth trwy gydol ei addysg gan Wasanaeth Nam ar y Golwg SenCom, neu Wasanaeth Nam ar y Golwg Gwent gynt.

"Roedd rhoi’r wobr i James ei hun yn teimlo’n addas iawn am ei fod yn esiampl o’r gwahaniaeth y mae’r gwasanaeth yn gallu ei wneud i bobl ifanc â nam ar eu golwg. 

"Mae e’n stori lwyddiant ac rydyn ni’n falch iawn ohono a’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae hefyd yn addas fod y cwricwlwm newydd i blant â nam ar eu golwg yn cynnwys chwaraeon a hamdden, ac mae James wir yn bencampwr ac yn hyrwyddwr i ni yn y maes hwn.”

Meddai James, sy’n 32 oed ac sy’n hyfforddi ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn Glasgow ym mis Awst yn rhan o dîm beicio Prydain Fawr: "Allwn i ddim credu’r peth pan gysylltodd Sarah i ofyn a fydden i’n hoffi cael y llun.

"Mae Gwasanaeth Nam ar y Golwg Gwent wedi fy helpu trwy gydol y nghyfnod yn yr ysgol – roedd rhywun gyda fi i fy helpu i gymryd nodiadau, ges i fy nysgu sut i deipio heb edrych ar y bysellfwrdd a ges i fenthyg gliniadur a meddalwedd arbenigol. Roedd gwybod bod rhywun yno yn gefn i fi yn help mawr." 

Meddai Roger Thurlbeck, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu, a enwebodd Sarah am y wobr: "Rwy’n hynod o falch o’r tîm SenCom a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar fywydau cymaint o blant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.

"Roeddwn i am sicrhau bod cyfle i gyraeddiadau Sarah wrth arwain ei thîm i gael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol. Mae ennill y wobr hon yn deyrnged fawr i waith Sarah a’i thîm dros nifer o flynyddoedd i wneud gwahaniaeth i blant â nam ar eu golwg ar draws ein rhanbarth."

Mae tîm SenCom yn darparu tri gwasanaeth i blant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion colegau a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar – lleferydd, iaith a chyfathrebu, cymorth i rai â nam ar eu clyw a chymorth i rai â nam ar eu golwg.

Cyngor Torfaen sy’n lletya’r gwasanaeth ac mae’n gweithio’n rhanbarthol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. I gysylltu â’r gwasanaeth anfonwch neges e-bost i sencom@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 648888.

Am ragor o wybodaeth am y Fframwaith Cwricwlwm i Blant a Phobl Ifanc â Nam ar eu Golwg, ewch i wefan yr RNIB (Royal National Institute of Blind People).

Diwygiwyd Diwethaf: 27/06/2023 Nôl i’r Brig