Gŵyl Hwyl Haf Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Mehefin 2023
Summer of Fun SM ENG

Gall miloedd o blant a phobl ifanc ledled Torfaen gael cyfnod o wyliau haf yn llawn gweithgareddau, digwyddiadau a theithiau cyffrous.

Bydd Gŵyl Hwyl Haf Torfaen yn dechrau ar ddiwedd tymor yr ysgol a bydd yn agored i blant a phobl ifanc Torfaen i gyd, o 0 i 25 oed.

Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael tan fis Medi, gan gynnwys gweithdai addysgol, celf a chrefft, chwaraeon tymhorol, teithiau a mwy.

O ddydd Llun 31 Gorffennaf i ddydd Iau 24 Awst, bydd Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn cynnal cyfleoedd chwarae pob dydd yn eu Cynlluniau Chwarae Mynediad Agored, Chwarae yn y Parc, a Gwersylloedd Bwyd a Hwyl

Tra bydd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous, o feicio mynydd i barciau saffari, y cyfan ochr yn ochr â’u darpariaeth reolaidd i bobl ifanc 11 i 25 oed.

Mae yna hefyd nifer o raglenni hwyliog ac atyniadol sy’n cael eu trefnu gan sefydliadau eraill, gan gynnwys Canolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc, TOGS, Hope GB, Celf ar y Blaen, Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, ac Urdd Gobaith Cymru

Gall teuluoedd â phlant iau gofrestru ar gyfer llond lle o gyfleoedd trwy wasanaeth Blynyddoedd Cynnar y cyngor, gan gynnwys Sesiynau Babanod i Gyd, Archwilwyr Bychain a Galw Heibio i Chwarae.

Am ragor o wybodaeth am y mathau eraill o gymorth sydd ar gael i deuluoedd, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen - https://torfaenfis.org.uk

Bydd yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n rhan o Ŵyl Hwyl yr Haf ar wefan Cysylltu Torfaen – bydd rhagor o wybodaeth yma yn y man.

Bydd y digwyddiadau i gyd sy’n rhan o Ŵyl Hwyl Haf Torfaen yn cael eu rhestru ar wefan Cysylltu Torfaen.

Mynegodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, ei werthfawrogiad am yr amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael, gan ddweud, “Yn Nhorfaen, rydym yn wirioneddol ffodus fod gyda ni lwyth o adnoddau amhrisiadwy sy’n taro tant ag unigolion o wahanol gefndiroedd, ac mae’r rhesymau dros eu poblogrwydd yn amlwg.

"O Ddatblygiad Chwarae a Chwaraeon Torfaen i Wasanaeth Ieuenctid Torfaen a’n llyfrgelloedd rhagorol, mae’r mentrau yma’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyfareddol. Maen nhw’n grymuso plant a phobl ifanc i fynegi eu hunain, datblygu sgiliau newydd, meithrin eu lles meddyliol a chorfforol, a chreu atgofion a fydd yn ffurfio’u bywydau.

“Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i’r gwirfoddolwyr ymroddedig i gyd a fydd yn cefnogi’r ddarpariaeth ardderchog yma!"

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/06/2023 Nôl i’r Brig